Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar bobl i gymryd rhagofalon ychwanegol yn ystod tywydd poeth trwy lawr lwytho’r ap what3words

Postiwyd

Wrth i’r Swyddfa Dywydd gadarnhau mai’r mis Mai diwethaf oedd y mis Mai sychaf ar gofnod, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Chymru yn annog y cyhoedd i lawr lwytho’r ap what3words, a bod yn hynod wyliadwrus yn ystod tywydd poeth. Os ydi galwr wedi gweld tân ond methu egluro ble mae, fe all ddarparu cyfeiriad what3words, sydd yn gywir i’r 3m agosaf.

 

Ar hyd y wlad mae gwasanaethau tân yn efryn ar y cyhoedd i fod yn hynod ofalus yn ystod tywydd poeth yn dilyn cynnydd mewn tanau glaswellt, gyda’r rhan fwyaf wedi eu hachosi o ganlyniad i gamddefnyddio barbeciws a gadael coelcerthi’n llosgi yn ôl pob tebyg - a hynny yn aml iawn mewn ardaloedd gwledig neu fannau agored megis parciau, lle mae’n anodd disgrifio eu hunion leoliad. Mae hyn yn cyd-fynd gyda chynnydd mewn pobl sydd yn tyrru i gefn gwlad, traethau a llecynnau hardd, sydd yn aml iawn yn lleoedd diarffordd. Gan fod y tir yn hynod sych, mae tanau’n cynnau a lledaenu’n haws.

 

Mae what3words, ar gael ar ddyfeisiadau iOS ac Android. Mae wedi rhannu’r byd yn gridiau maint 3m x 3m sgwâr a’u labelu gyda thri gair: sef cyfeiriad what3words Er enghraifft byddai Postiwch. Lleihad.Prifddinas yn mynd â chi i gopa'r Wyddfa.

 

Meddai Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:  “Oherwydd y tywydd sych diweddar rydym wedi cael ein galw at nifer o danau glaswellt ac eithin, sydd wedi clymu’n hadnoddau am amser maith ar adeg pan roeddem wedi gobeithio lleihau’r galw ar ein diffoddwyr tân.

 

“Mae’r ap yn golygu’n bod ni’n treulio llai o amser yn ceisio darganfod union leoliad tanau, ac yn galluogi i’n criwiau fynd ati i daclo tanau cyn iddynt ledaenu.

 

“Mae’n grêt gweld technoleg newydd yn cael ei datblygu sydd yn hygyrch i’r rhan fwyaf ohonom ac sydd yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr mewn cyfnodau o angen.

 

“Rydym hefyd wrth gwrs yn apelio ar y cyhoedd i sicrhau nad ydynt yn cynnau tanau yn y lle cyntaf - rydym yn gofyn iddynt beidio â llosgi ar yr adeg hon, ac fel bob amser gymryd pwyll wrth ddefnyddio barbeciws neu wrth grwydro yma a thro yng nghefn gwlad.”

 

Fe ychwanegodd Chris Sheldrick, Prif Weithredwr what3words, ‘Mewn argyfwng mae pob eiliad yn dyngedfennol. Mae gwastraffu amser yn ceisio egluro lleoliad tân - wrth iddo ledaenu’n gyflym - yn peryglu bywydau pawb o’i gwmpas, achosi difrod sylweddol i’n hamgylchedd naturiol ac atal criwiau rhag mynd at ddigwyddiadau sy’n peryglu bywydau. Trwy gael what3words wrth law, fe all  y cyhoedd ddweud yn union ble maent mewn chwinciad.’

 

Mae yn what3words yn cael ei ddefnyddio gan dros 75% wasanaethau brys yn y DU. Y llynedd fe ddarparodd miloedd o alwyr gyfeiriad what3words yn ystod galwadau 999.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen