Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i gymryd pwyll gyda batris a gwefrwyr wedi i liniadur fynd ar dân yn Rhuddlan

Postiwyd

Mae Uwch Swyddog Diogelwch Tân yn amlygu pwysigrwydd cymryd pwyll gyda gwefrwyr a batris wedi i fatri newydd mewn gliniadur achosi tân yn  Rhuddlan neithiwr.

Galwyd criwiau o’r Rhyl a Llanelwy at y tân y Nhan yr Eglwys, Rhuddlan am 22.38 o’r gloch neithiwr (Nos Lun Gorffennaf 6). Achosodd y tân ddifrod i’r gliniadur a bwrdd  y gegin lle’r oedd yn gwefru  gan dduo’r wal yn ogystal. Defnyddiodd y diffoddwyr tân bibell dro i ddiffodd y tân.

Meddai Simon Bromley, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych: “Gyda mwy a mwy o bobl yn gweithio gartref, rydym ni’n defnyddio gliniaduron ac eitemau trydanol eraill yn amlach.

“Mae eitemau trydanol yn peri risgiau tân - ond fe allwch chi leihau’r risgiau a helpu i gadw’n ddiogel.

“Fe all batris achosi risg tân os ydynt yn gor-wefru, os oes nam ar y gylched fer, os cânt eu gorchuddio gyda dŵr neu os cânt eu difrodi. Os ydych chi’n prynu batri newydd, prynwch o siop dibynadwy. Mae’n bwysig iawn eu gwefru’n ddiogel hefyd, ac osgoi eu gwefru dros nos neu orchuddio gwefrwyr neu eitemau trydanol.

“Roedd y preswylydd yn yr ystafell pan gychwynnodd y tân - gyda diolch roedd larymau mwg yn yr eiddo ac fe wnaethant ganu a seinio rhybudd. Fe all tanau trydanol ddigwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le felly mae’n hanfodol gosod larymau mwg yn y cartref i’ch amddiffyn chi a’ch teulu.”

Dyma air i gall gan Simon ar gadw’n ddiogel wrth ddefnyddio batris a gwefrwyr:

  • Defnyddiwch y gwefrwr a ddaeth gyda’r ffôn, llechen, e-sigarét neu ddyfais symudol.
  • Os oes raid i chi brynu gwefrwr newydd, prynwch un dilys o siop dibynadwy. Mae nifer o eitemau ffug ar y farchnad ac mae’n anodd iawn eu gwahaniaethu. Fe all gwefrwyr ffug ladd - dydi nifer ohonynt ddim yn cwrdd â rheoliadau diogelwch y DU ac maent yn gallu achosi tanau ac anafu pobl.
  • Peidiwch â storio, defnyddio na gwefru batris mewn tymheredd uchel iawn neu isel iawn.
  • Gofalwch rhag ofn i’ch batris gael eu difrodi - hynny ydi eu gwasgu, tyllu neu eu gorchuddio gyda dŵr
  • Peidiwch â gadael eitemau yn gwefru dragywydd ar ôl iddynt orffen gwefru - peidiwch â gadael eitemau’n gwefru dros nos
  • Peidiwch byth â gorchuddio gwefrwyr na dyfeisiadau gwefru - mae hyn yn cynnwys defnyddio lid pŵer eich gliniadur yn y gwely.
  • Pan fyddwch yn teithio, peidiwch â chadw eitemau sydd yn cynnwys batris ïon lithiwn gyda’i gilydd, yn enwedig wrth hedfan. Cysylltwch gyda’ch cwmni hedfan am wybodaeth neu gyngor pellach.
  • Peidiwch â gorlwytho socedi - defnyddiwch y cyfrifiannell gorlwytho socedi yma : http://www.twothirtyvolts.org.uk/electrical-safety/around-your-home/socket-overload-calculator.html
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen