Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dihangfa lwcus i gwpl oedrannus wedi i larwm mwg eu rhybuddio ynglŷn â thân yn eu cartref ym Menllech

Postiwyd

Dihangfa lwcus i gwpl oedrannus wedi i larwm mwg eu rhybuddio ynglŷn â thân yn eu cartref ym Menllech

Mae Swyddogion Tân yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg wedi i gwpl oedrannus ddianc yn ddianaf yn dilyn tân yn eu cartref ym Menllech yn ystod oriau mân y bore yma.

Fe wnaeth y synwyryddion, a gafodd eu gosod gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ganu wedi i dân gynnau mewn ystafell amlbwrpas a deffro’r preswylwyr a oedd yn eu gwelyau ar y pryd.

Galwyd criwiau o Fenllech a Llangefni i’r eiddo yn Nolafon, Benllech am 01.35 o’r gloch y bore yma (Dydd Llun 12fed Hydref) a defnyddiodd y criwiau un bibell ddŵr i ddiffodd y tân. Cafodd y preswylwyr archwiliad yn y fan a’r lle gan staff o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a chadarnhawyd nad oeddent wedi cael eu hanafu.

Meddai Dave Greene o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r digwyddiad yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg gweithredol - oni bai bod y larwm wedi eu deffro, fe allai’r canlyniadau fod wedi bod yn drychinebus. 

“Hefyd, oherwydd bod y cwpl wedi cau drws yr ystafell, ni wnaeth y tân ledaenu i weddill yr eiddo ,felly cyfyngwyd y difrod tân i un ystafell yn unig. Fel rhan o’ch harferion gyda’r nos, rydym yn annog trigolion i gau drysau mewnol cyn mynd i’r gwely.

“Achoswyd y tân gan oergell â rhewgell yn yr ystafell amlbwrpas, wedi i wres o gefn y cyfarpar roi eitemau a oedd wedi disgyn y tu ôl iddo ar dân. Mae’n bwysig cadw cyfarpar trydanol yn glir o eitemau hylosg ac eitemau eraill a all eu hatal rhag oeri’n iawn, ac achosi iddynt orboethi a mynd ar dân.

“Ein cyngor ydi byddwch mor barod â phosibl rhag tân, trwy sicrhau bod gennych chi larymau mwg gweithredol yn eich cartref a bod eich llwybrau dianc yn glir er mwyn i chi a’ch teulu allu mynd allan mor gyflym â phosibl.

“Mae’r digwyddiad yn enghraifft glir o’r modd y gall larymau mwg achub bywydau - a hoffwn apelio ar drigolion i sicrhau bod eu larymau mwg nhw a rhai eu teulu a’u ffrindiau yn gweithio trwy eu profi bob wythnos.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen