Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dyn yn marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Stryd y Capel, Llangollen

Postiwyd

Yn drist iawn mae dyn yn ei 70au wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Llangollen.

Am 20.42 o'r gloch heno (Nos Iau 3 Rhagfyr) cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw allan yn dilyn adroddiadau bod tŷ ar dân yn Stryd y Capel, Llangollen.

Fe ddeliodd diffoddwyr tân o Langollen, y Waun, Johnstown, Corwen a Wrecsam gyda'r digwyddiad ac fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân offer anadlu i fynd i mewn i'r eiddo i chwilio am anafusion a defnyddiwyd pibellau tro i ddiffodd y tân. 

Yn anffodus daeth y criwiau o hyd i ddyn ond yn ddiweddarach cadarnhawyd ei fod wedi marw. 

Mae ymchwiliad i achos y tân nawr ar y gweill rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen