Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Neges gan Brif Weinidog Cymru ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus Cymru

Postiwyd

Mae'r Prif Weinidog ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi neges i bobl Cymru cyn y Nadolig.

Yn eu neges, maen nhw'n dweud:

A ninnau ar drothwy’r Nadolig, gofynnwn i chi feddwl yn ofalus am  yr hyn y ‘dylech’ ei wneud, yn hytrach na’r hyn y ‘cewch’ ei wneud.

Mae’r coronaferiws yn carlamu trwy Gymru yn gyflymach nac ar unrhyw adeg arall yn y pandemig.

Mae ein gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau anferthol. Maen nhw’n gweithio ddydd a nos  i ofalu am bobl a’u diogelu.

Mae’r gweithwyr rheng flaen yn rhoi ein hiechyd a’n gofal ni gyntaf, yn ddyddiol.

Ond wrth i’r feirws barhau i ledaenu, tyfu hefyd mae’r pwysau ar ein Gwasanaeth Iechyd.

Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i amddiffyn y GIG ac achub bywydau.

Mae’r feirws yn cael effaith fawr ar ein gwasanaethau argyfwng hefyd.

Dros yr wythnosau nesaf, mae angen inni sicrhau eu bod nhw yno i ni pan fo gwir angen, a gwir argyfwng.

Diolch o galon i bob un ohonoch sy’n dal ati i ddilyn y rheolau.

Yn anffodus, wrth i nifer yr achosion coronafeirws godi’n uwch eto, a bygythiad ychwanegol yr amrywiolyn newydd yn ei gwneud yn haws i’r feirws drosglwyddo i eraill,  mae mwy fyth o debygrwydd y byddwn ni’n dal y feirws ofnadwy hwn a’i basio i eraill.

I gadw eich hun a’ch hanwyliaid yn ddiogel y Nadolig hwn, ddylech chi ddim cymysgu â  phobl eraill.

I’r rhan fwyaf o bobl bydd y feirws yn achosi salwch ysgafn, ond mae llawer – ein rhieni, ein neiniau a’n teidiau – a allai fynd yn ddifrifol wael, neu farw.

Mae gormod o deuluoedd wedi colli pobl i’r feirws erchyll hwn. Ac os na weithredwn ni nawr, bydd rhagor yn marw.

Bydd ein gweithredoedd ni dros y Nadolig ac yn yr wythnosau a misoedd nesaf yn effeithio  ar Gymru am flynyddoedd.

Dyma erfyn ar bawb i feddwl yn ofalus cyn gweithredu, i ddiogelu ein gwasanaethau brys a’n cyrff cyhoeddus fel eu bod nhw yno i ni pan fo gwir angen.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen