Mehefin 2021
-
Gwesty yn y Rhyl yn cael ei gyhuddo o fethu ag ymateb i gais am wybodaeth
Postiwyd -
Tân angheuol mewn tŷ yn Nhreffynnon
Postiwyd -
Arhoswch yn ddiogel wrth fwynhau pencampwriaeth yr Ewros
Postiwyd -
Wythnos Diogelwch y Plant
Postiwyd -
Cydweithio â Chymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru yn darparu signal radio hanfodol
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd yng Ngorsaf Dân Cerrigydrudion fel rhan o brosiect i ddarparu signal cyfathrebu radio hanfodol yn ardal Eryri a Llyn Brenig. Mae Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru yn gorff sy’n cynrychioli timau gwirfoddol ar gyfer Mynyddoedd, Iseldir, Ogofâu a Chwilio â Chŵn yng Ngogledd Cymru. Dywedodd Steve Morris o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Ddechrau’r flwyddyn, daeth Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru ataf i ofyn am help i ddarparu signal radio ar gyfer eu gwirfoddolwyr yn yr ardal o gwmpas Llyn Brenig a de-ddwyrain Eryri. "Dyma nhw’n cyfeirio at Orsaf Dân Cerrigydrudion fel lle delfrydol ar gyfer system ategu radio. Mae gennym rwydweithiau cyflym a diogel ar gyfer y sector cyhoeddus ymhob gorsaf dân yn barod er mwyn gallu anfon peiriannau tân allan ar unwaith ac i alluogi ein criwiau tân i ddefnyddio’r cyfrifiaduron. Mae system ategu radio yn gysylltiedig â’r rhwydwaith hwnnw, ac mae’n pwyntio at dyrbin gwynt sy’n llenwi’r ardal o gwmpas â signal. "Mae’n rhywbeth sy’n rhoi boddhad mawr i gael mwy o werth heb gostio dim mwy, yr unig beth oedd angen oedd meddwl yn greadigol gyda’n gilydd.” Dywedodd Gerald Davison, sy’n arweinydd TG a Chyfathrebu Gwirfoddolwyr ar gyfer y Gymdeithas ac yn Ddiffoddwr Tân Ar-Alwad yng Ngorsaf Dân yr Wyddgrug: "Mae wedi bod yn wych cael gweithio gyda Steve Morris a Matt Topp yn y gwasanaeth tân ac achub mwyn sefydlu’r gwasanaeth hwn yn gyflym iawn. "Y dewis arall fyddai cael cysylltiad drud ar gyfer safle i’r system ategu, ac fel elusen fach fydden ni ddim wedi gallu fforddio’r costau parhaus." Aeth Tim Radford, Cadeirydd Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru, yn ei flaen i ddweud: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am gynorthwyo’r timau gwirfoddol Chwilio ac Achub ar Dir yng Ngogledd Cymru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n gilydd ar safleoedd eraill lle mae angen mynediad at y rhwydwaith, er mwyn i ni allu gwasanaethu pobl mewn angen mewn ardaloedd gwledig a mynyddig.” I gloi, dywedodd Steve: “Erbyn hyn, mae Gorsaf Dân Cerrigydrudion yn rhan o bedwar o systemau cydgysylltiedig ar gyfer ategu radio, sy’n darparu signal ar gyfer tîm Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru yn Llanberis. "Mae’r pedair ardal yn rhan o gynllun treialu a fydd yn rhan o rwydwaith lawer mwy o faint ledled Gogledd Cymru os bydd yn llwyddiannus. Oherwydd ein bod wedi cymryd rhan yn eu prosiect, mae Cerrigydrudion yn chwarae rhan bwysig yn darparu signal radio hanfodol. "Rwy’n edrych ymlaen i gael parhau i helpu fy nghydweithwyr newydd yng Nghymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru gyda’r gwaith o gyflwyno’r system.”
-
Tynnu sylw at ba mor bwysig yw systemau chwistrellu dŵr ar ôl tân sosban saim yn y Fflint
Postiwyd -
Tân eithin yn Rhewl ger Llangollen – y diweddaraf 2.6.21 9.30am
Postiwyd -
Tân eithin yn Rhewl ger Llangollen – y diweddaraf am 6.00pm
Postiwyd -
Diweddariad - Tan eithin ger Rhewl, Llangollen
Postiwyd -
Tan eithin ger Rhewl, Llangollen
Postiwyd