Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cofnodion 16 Rhagfyr 2019

AWDURDOD TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU

Cofnodion cyfarfod Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru a gynhaliwyd ddydd Llun 16 Rhagfyr 2019 yn Siambr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy. Dechreuodd y cyfarfod am 10.30am.

YN BRESENNOL

Y Cynghorydd Yn cynrychioli
P Lewis (Cadeirydd) Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
B Apsley Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
M Bateman Cyngor Sir y Fflint
A Davies Cyngor Sir Ddinbych
M Ll Davies Cyngor Sir Ddinbych
M Dixon Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
V Gay Cyngor Sir y Fflint
R Griffiths Cyngor Sir Ynys Môn
J B Hughes Cyngor Gwynedd
S Lloyd-Williams Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
G Lowe Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
R E Parry Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
B Parry-Jones Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
D Rees Cyngor Sir Ynys Môn
G A Roberts Cyngor Gwynedd
R Roberts Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
N Smith Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
W O Thomas Cyngor Sir y Fflint
G G Williams Cyngor Gwynedd

Hefyd yn bresennol:

S A Smith (Prif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr); C Everett (Clerc a Swyddog Monitro i’r Awdurdod); K W Finch (Trysorydd i’r Awdurdod); R Fairhead a K Roberts (Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol); S Morris a H MacArthur (Prif Swyddogion Cynorthwyol); T Williams (Rheolwr Cyfathrebu Corfforaethol); A Davies (Swyddog Cyswllt Aelodau).

YMDDIHEURIADAU

Y Cynghorydd Yn cynrychioli
B Blakeley Cyngor Sir Ddinbych
A I Dunbar Cyngor Sir y Fflint
P Evans Cyngor Sir Ddinbych
S Glyn Cyngor Gwynedd
E W Jones Cyngor Sir Ynys Môn
P Shotton Cyngor Sir y Fflint
A Tansley Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

1 DATGAN BUDDIANNAU

1.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

2 COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 16 MEDI 2019

2.1 Cafodd cofnodion y cyfarfod o’r Awdurdod Tân ac Achub a gynhaliwyd ar 16 Medi eu cyflwyno i’w cymeradwyo.

2.2 PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion yn gofnod gwir a chywir.

3 MATERION YN CODI

3.1 Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

4 MATERION BRYS

4.1 Nid oedd unrhyw faterion brys.

5 ADRODDIAD Y CADEIRYDD

5.1 Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y cyfarfodydd a’r digwyddiadau yr aeth Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd yr Awdurdod iddynt rhwng Rhagfyr 2018 a Rhagfyr 2019 yn rhinwedd eu swyddi.

5.2 PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a ddarparwyd.

6 ALLDRO AMCANOL 2019/20

6.1 Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i roi gwybod i’r Aelodau am sefyllfa ragamcanol y gwariant refeniw a chyfalaf, fel yr oedd pethau ar
30 Tachwedd 2019.

6.2 Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa fod yr Awdurdod, yn ei gyfarfod ar
17 Rhagfyr 2018, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw, a oedd yn werth £35.2m, a bod ailgysoniad o’r gyllideb wedi cael ei gymeradwyo yn y cyfarfod ym mis Medi 2019. Nodwyd mai’r sefyllfa alldro a ragwelir o hyd yw y bydd yr Awdurdod yn adennill y costau yn erbyn y gyllideb.

6.3 Hefyd yn y cyfarfod ar 17 Rhagfyr 2018, fe wnaeth yr Awdurdod gymeradwyo cyllideb gyfalaf a oedd yn werth £3.1m; cafodd hyn ei adolygu wedyn, a’i ddiwygio i £2.1m. Fodd bynnag, ers i’r rhaglen gael ei hadolygu, mae prosiectau wedi llithro mewn perthynas â Chyfleusterau oherwydd bod rhaid aildendro gwaith, a hefyd TGCh/Ystafell Reoli, yn bennaf oherwydd yr oedi yn y prosiect ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru i adleoli’r ail ystafell reoli. Nodwyd bod disgwyl cario cyllid drosodd i 2020/21 i ymorol am y llithriant hwn.

6.4 PENDERFYNWYD nodi sefyllfaoedd alldro’r refeniw a chyfalaf drafft, fel yr oedd pethau ar 30 Tachwedd 2019.

7 STRATEGAETH ARIANNOL TYMOR CANOLIG 2020/23 A CHYLLIDEB 2020/21

7.1 Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i roi gwybod i’r Aelodau am Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020/23 a’r cyllidebau refeniw a chyfalaf drafft ar gyfer 2020/21.

7.2 Cafodd yr aelodau eu hatgoffa bod rhaid i’r Awdurdod osod cyllideb fantoledig ym mis Rhagfyr bob blwyddyn. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r rhagdybiaethau allweddol, y risgiau a’r ansicrwydd a ganfuwyd yn y broses o gynllunio’r gyllideb.

7.3 Rhoddodd y Trysorydd wybod i’r Aelodau mai’r sefyllfa ers dosbarthu’r adroddiad i’r Aelodau oedd bod gwybodaeth wedi dod i law ddydd Gwener 2019 yn dweud bod y sail ar gyfer dyrannu’r cyfraniadau o’r awdurdodau lleol ar gyfer 2020/21 wedi newid yn dilyn yr argymhellion mewn adroddiad gan yr Is-grŵp Dosbarthu (sef gweithgor i’r Is-grŵp Cyllid) sy’n gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sail dosbarthu cyllid. Bydd y sail yn newid i ‘boblogaeth canol blwyddyn 2018’ gan fod y grŵp wedi dod i’r casgliad mai dyma sy’n cynnig yr amcangyfrif mwyaf perthnasol o’r boblogaeth, a chytunwyd i barhau i addasu’r ffigyrau ar gyfer Carchar EM Berwyn yn Wrecsam i gydnabod y boblogaeth o garcharorion ac effaith hynny ar wasanaethau. Bydd y newid yn cael ei gyflwyno’n raddol dros gyfnod o ddwy flynedd er mwyn sicrhau mai bach yw’r effaith ar yr awdurdodau unigol. Mae’r cyfraniadau gan y chwe awdurdod cyfansoddol wedi cael eu hailgyfrifo drwy ddefnyddio’r sail newydd, ac mae tabl diwygiedig ar gael isod:

Awdurdod

Cyfraniad
2019/2020
£

Poblogaeth

Poblogaeth

%

2020/2021

Rhag-amcanol*

£

Cynnydd mewn cyfraniad
£

Cynnydd
%

Conwy

5,875,914

117,223

17%

6,005,505

129,591

2.21%

Ynys Môn

3,522,798

70,169

10%

3,592,944

70,146

1.99%

Gwynedd

6,226,618

124,426

18%

6,363,994

137,376

2.21%

Sir Ddinbych

4,805,681

95,931

14%

4,898,654

92,973

1.93%

Sir y Fflint

7,790,476

155,442

22%

7,968,197

177,721

2.28%

Wrecsam

7,015,625

140,358

20%

7,112,560

96,935

1.38%

Cyfanswm

35,237,112

703,548

100%

35,941,854

704,742

2.00%


* Mae cyfraniadau rhagamcanol yr awdurdodau lleol 2020/2021 yn seiliedig ar gyllideb ddrafft, a rhaid eu hystyried ar y cyd â’r risg a’r ansicrwydd a amlinellir yn yr adroddiad.

7.4 Ar ôl cael eglurhad am rai agweddau ar yr adroddiad, PENDERFYNWYD

(i) cymeradwyo’r cyllidebau cyfalaf a refeniw ar gyfer 2020/21, yn seiliedig ar gynnydd mewn cyfraniadau gan yr awdurdodau lleol cyfansoddol, fel y nodir ym mharagraff 7.3;
(ii) nodi’r ansicrwydd a’r risgiau allweddol a ganfuwyd yn ystod y broses o gynllunio’r gyllideb; a
(iii) cefnogi’r Strategaeth Arianol Tymor Canolig.

8 CYNLLUN GWELLA A LLESIANT 2020/21

8.1 Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i roi gwybod i’r Aelodau am hynt ymgynghoriad cyhoeddus yr Awdurdod, ac i gynnig diwygio’r amcanion gwella a llesiant fel rhan o’r broses o lunio ei Gynllun Gwella a Llesiant nesaf.

8.2 Fe wnaeth PST Morris atgoffa’r Aelodau fod rhaid i’r Awdurdod Tân ac Achub gyhoeddi amcanion gwella a llesiant a bod wedi cynnwys y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill yn y broses o ddatblygu’r amcanion hynny. Nodwyd bod ymgynghoriad cyhoeddus yr Awdurdod yn mynd yn ei flaen ac y bydd yn dod i ben ar 17 Ionawr 2020. Nodwyd hefyd fod swyddogion wedi mynychu cyfarfodydd pwyllgorau craffu yr awdurdodau lleol i drafod yr ymgynghoriad gyda’r cynghorwyr.

8.3 Yn dilyn adborth gan Gomisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, cynigwyd bod yr Awdurdod yn cymryd y cyfle i ddiwygio ac ehangu ei amcanion hirdymor ar gyfer 2020/21 ac ymlaen; caiff y rhain eu cyflwyno i’r Awdurdod yn ei gyfarfod ym mis Mawrth.

8.4 Mynegodd y Cyng. Lloyd-Williams bryder am sylwadau’r Comisiynydd, a gofynnodd a oedd modd cael rhagor o eglurhad er mwyn gallu canolbwyntio ar beth yn union sy’n ddisgwyliedig gan yr Awdurdod. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod yr Aelodau, yn y cyfarfod diwethaf o’r Panel Gweithredol, wedi codi’r un materion, a nodwyd y bydd hyn yn cael ei drafod yn fanylach yn y cyfarfod nesaf o’r Panel Gweithredol ym mis Chwefror.

8.5 PENDERFYNWYD

i) nodi hynt ymgynghoriad cyhoeddus yr Awdurdod sy’n mynd yn ei flaen, i geisio cael barn ar y gwaith o ddatblygu a mabwysiadu strategaeth amgylcheddol; a
ii) cymeradwyo’r cynnig fod y swyddogion yn llunio cyfres helaethach o amcanion gwella a llesiant i’w hystyried i ddechrau gan y Panel Gweithredol ac yna gan yr Awdurdod llawn yn ei gyfarfod nesaf ym mis Mawrth 2020.

9 AELODAETH GWEITHGOR CYNLLUNIO’R AWDURDOD ER MWYN DATBLYGU CYNLLUN YR AWDURDOD TÂN AR GYFER 2021/22

9.1 Cyflwynodd y PST Morris yr adroddiad i ofyn i’r Aelodau gytuno ar aelodaeth Gweithgor Cynllunio’r Awdurdod ar gyfer 2020.

9.2 Nodwyd y bydd angen i brosesau cynllunio’r Awdurdod ddechrau yn gynnar yn 2020 er mwyn caniatáu digon o amser i’r Awdurdod allu creu cynllun 2021/22, ymgynghori yn ei gylch, a’i gymeradwyo i’w gyhoeddi yn gynnar yn 2021.

9.3 PENDERFYNWYD

(i) cytuno bod holl aelodau Panel Gweithredol yr Awdurod yn dod yn aelodau o’r Gweithgor Cynllunio;
(ii) cytuno i barhau i gynnwys Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio ar y Gweithgor Cynllunio; a
(iii) nodi dyddiadau’r cyfarfodydd, i’w cynnal yn y Pencadlys, fel a ganlyn:
20 Ionawr, 2pm
2 Mawrth, 2pm
30 Mawth, 10am.

10 DYDDIADAU CYFARFODYDD 2020/21

10.1 Cyflwynodd y Clerc yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i’r Aelodau am ddyddiadau cyfarfodydd yr Awdurdod Tân ac Achub llawn, y Panel Gweithredol a’r Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2020/21. Dyma’r dyddiadau:

10.2 Dyma ddyddiadau cyfarfodydd ATAGC:

Dydd Llun 16 Mawrth 2020
Dydd Llun 15 Mehefin 2020
Dydd Llun 21 Medi 2020
Dydd Llun 21 Rhagfyr 2020
Dydd Llun 15 Mawrth 2021

10.3 Dyma ddyddiadau cyfarfodydd y Panel Gweithredol, i’w cynnal ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub yn Llanelwy (am 10.00am fel arfer):

Dydd Llun 10 Chwefror 2020
Dydd Llun 18 Mai 2020
Dydd Llun 27 Gorffennaf 2020, 2pm
Dydd Llun 19 Hydref 2020
Dydd Llun 15 Chwefror 2021

10.4 Dyma ddyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio, i’w cynnal ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub yn Llanelwy am 10.00am:

Dydd Llun 27 Ionawr 2020
Dydd Llun 27 Gorffennaf 2020
Dydd Llun 21 Medi 2020, 9.30am, Bodlondeb
Dydd Llun 25 Ionawr 2021

10.5 PENDERFYNWYD nodi dyddiadau cyfarfodydd yr Awdurdod Tân ac Achub, y Panel Gweithredol a’r Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2020/21.

11 CYNLLUNIAU LLYWODRAETH CYMRU I DDIWYGIO TREFNIADAU LLYWODRAETHU’R AWDURDODAU TÂN AC ACHUB YNG NGHYMRU

11.1 Rhoddodd y Cadeirydd wybodaeth i’r Aelodau am gyfarfod diwethaf y Prif Swyddogion a’r Cadeiryddion gyda’r Dirprwy Weinidog. Dyma faterion a drafodwyd:

• cyflog diffoddwyr tân, ac ehangu’r swydd;
• pensiynau diffoddwyr tân – os rhoddir cyllid ar gyfer pensiynau, caiff ei dalu drwy grant uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru;
• Grenfell – roedd yr holl Brif Swyddogion Tân wedi cael gwybodaeth am y gwaith sydd wedi cael ei wneud yn eu Gwasanaethau eu hunain yn dilyn adroddiad Grenfell.

11.2 O ran diwygio trefniadau llywodraethu Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru, nodwyd na chafwyd unrhyw ddatblygiadau pellach, heblaw fod y Dirprwy Weinidog wedi cadarnhau nad yw hi mwyach yn ystyried yr opsiwn o gael aelodau cabinet i gynrychioli’r awdurdodau tân ac achub.

11.3 Yn dilyn sylwadau’r Prif Swyddog Tân am y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a gyflwynwyd ar 18 Tachwedd 2019, sy’n cynnwys cynigion i’r Ysgrifennydd Gwladol gynnal ymchwiliad cyhoeddus os oes newidadau arwyddocaol megis cau gorsafoedd, mynegodd yr Aelodau bryder mawr y byddai cynigion a newidiadau o’r fath yn symud y penderfyniadau oddi wrth lefel benodol o ddemocratiaeth. Bydd yr Aelodau’n cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau mewn perthynas â’r Bil.

11.4 PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a ddarparwyd.

12 BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS – Y DIWEDDARAF

12.1 Cyflwynodd y PST Morris yr adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o’r cynnydd y mae pob un o’r pedwar Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngogledd Cymru wedi ei wneud tuag at gyflawni’r amcanion llesiant sydd yn y cynlluniau llesiant a gyhoeddwyd ganddynt yn Ebrill/Mai 2018.

12.2 Nodwyd bod y pedwar Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngogledd Cymru wedi cyhoeddi eu hadroddiadau blynyddol cyntaf i ddangos y cynnydd mewn perthynas â’r cynlluniau llesiant ar gyfer eu hardaloedd, a chafodd dolen at bob adroddiad blynyddol ei gynnwys yn yr adroddiad. Mae’r Byrddau’n dal i gwrdd yn rheolaidd ac i weithio drwy is-grwpiau. Er bod y cynlluniau llesiant eu hunain wedi dynodi 74 o flaenoriaethau ar gyfer Gogledd Cymru, mae’r pedwar Bwrdd wedi rhesymoli nifer y blaenoriaethau i ganolbwyntio arnynt yn eu hardaloedd.

12.3 PENDERFYNWYD nodi’r cynnydd a wnaed gan y pedwar Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngogledd Cymru tuag at gyflawni eu hamcanion llesiant, fel yr amlinellir yn eu hadroddiadau blynyddol.

13 DEDDF BIOAMRYWIAETH A’R AMGYLCHEDD CYMRU 2016

13.1 Cyflwynodd y PST MacArthur yr adroddiad a oedd yn delio â chydymffurfiaeth Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ag adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Roedd hefyd yn darparu gwybodaeth am gynllunio yn y dyfodol ac am ddulliau adrodd yr Awdurdod ynglŷn â gwella bioamrywiaeth yn ei ystad.

13.2 Nodwyd bod rhaid i’r Awdurdod gynllunio ar gyfer, ac adrodd ynghylch, ei gamau i wella bioamrywiaeth yn ei ystad. Roedd Adroddiad Bioamrywiaeth a Chadernid Ecosystemau 2019 yn atodiad i’r adroddiad, er mwyn ei gymeradwyo i’w gyhoeddi ar wefan yr Awdurdod erbyn diwedd mis Rhagfyr yn unol ag adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

13.3 PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnwys yr Adroddiad Bioamrywiaeth a Chadernid Ecosystemau 2019 i’w ymgorffori mewn cyhoeddiad â darluniau ar wefan yr Awdurdod cyn diwedd Rhagfyr 2019.

14 COFRESTR BUDDIANNAU’R AELODAU A THRAFODION PARTÏON CYSYLLTIOL

14.1 Fe wnaeth y Clerc atgoffa’r Aelodau ei bod yn bwysig sicrhau bod eu cofrestr buddiannau yn cael ei chadw’n gyfoes. Nodwyd bod cofrestr buddiannau’r holl Aelodau yn cael ei chyhoeddi ar wefan ATAGC. Bydd y ffurflen gysylltiol flynyddol am drafodion partïon yn cael ei dosbarthu yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd, ac eto gofynnwyd i’r Aelodau ei llenwi a’i dychwelyd yn brydlon er mwyn gallu cynnwys yr wybodaeth yn y cyfrifon blynyddol sydd eu hangen ar Swyddfa Archwilio Cymru.

14.2 PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen