Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Diweddaraf am Covid-19

PWRPAS YR ADRODDIAD

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwybod i’r Aelodau am weithgareddau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ers cychwyn pandemig y coronafeirws ym mis Mawrth 2020. Mae Atodiad 1 yn darparu golwg gyffredinol gryno ar yr ystadegau gweithredol sy’n cwmpasu cyfnod y pandemig hyd yn hyn.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Mae’r adroddiad hwn yn darparu manylion am yr hyn mae’r Gwasanaeth wedi’i wneud ers dechrau’r achosion o’r coronafeirws yn 2020, hyd at ddiwedd mis Hydref.

ARGYMHELLION

Bod yr Aelodau’n nodi cynnwys yr adroddiad.

SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR ARCHWILIO

Nid yw’r Aelodau wedi ystyried yr adroddiad hwn o’r blaen.

CEFNDIR

Yn gynharach eleni, ar 12fed Mawrth, wrth iddi ddod yn glir fod y Deyrnas Unedig yn wynebu argyfwng iechyd na welwyd ei debyg, gorchmynwyd y grŵp Parhad Busnes yn y Gwasanaeth i ddechrau’r broses o gloi’r Gwasanaeth i lawr cyn y cyfnod clo a gyhoeddwyd yn ddiweddarach y mis hwnnw. Dyma oedd y nodau strategol allweddol ar y pryd, ac mae’r rhain yn parhau i bennu ymateb cyffredinol y Gwasanaeth: - amddiffyn iechyd cymunedau Gogledd Cymru; amddiffyn iechyd aelodau’r Gwasanaeth; a darparu gwasanaeth gweithredol mor normal ag yr oedd yn bosibl dan yr amgylchiadau.

Canslwyd cyfarfod yr Awdurdod Tân ac Achub a oedd wedi’i drefnu ym mis Mawrth, ynghyd â’r cyfarfodydd a oedd ar y gweill drwy’r gwanwyn a’r haf. Gwnaethpwyd y penderfyniad hwn oherwydd bod disgwyl lefelau uchel o weithgarwch a chyfranogiad gan yr Aelodau a’r swyddogion wrth ddelio â’r achosion o’r coronafeirws, ynghyd â’r ffaith fod angen datblygu datrysiadau technolegol a phrotocolau i sicrhau nad oedd cyfarfodydd yr Awdurdod yn cael eu peryglu. Drwy Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020, darparwyd sail ddeddfwriaethol ar gyfer y newid i drefniadau gweithio arferol yr Awdurdod. Aeth y rhan fwyaf o amser y swyddogion yn y gwanwyn a dechrau’r haf ar waith ochr yn ochr â phartneriaid allweddol yn y gwasanaethau brys eraill, yr awdurdodau lleol a’r gwasanaethau iechyd, wrth i’r Gwasanaeth chwarae ei ran lawn yn y gyd-ymdrech genedlaethol. Un nodwedd arbennig o ddyddiau cynnar y pandemig oedd bod nifer o gyn-weithwyr wedi cynnig eu gwasanaethau yn wirfoddol. Mewn nifer gyfyngedig o achosion, derbyniwyd y cynigion hynny.

O fewn cyfnod byr o amser, llwyddodd y Gwasanaeth i gyrraedd sefyllfa o weithio bron yn gyfan gwbl o gartref, o ran yr aelodau o’r staff yr oedd eu swyddi’n caniatáu hynny. Bu’r aelodau o’r staff yn gweithio’n galed a diflino, gan lwyddo, bob tro, i ganfod datrysiadau i’r problemau technegol a logisteg a grewyd gan y newid pwyslais hwn. Law yn llaw â mwy o weithio gartref, roedd yn bwysig fod cyfathrebu mewnol yn digwydd yn effeithiol a bod mesurau’n cael eu sefydlu i ddelio nid yn unig â materion iechyd corfforol ond â materion iechyd meddwl hefyd. Cafodd ein safleoedd rheng flaen (gorsafoedd tân, Ystafell Reoli’r Gwasanaeth, gweithdai’r fflyd a storfeydd cyfarpar) hefyd eu gwneud mor ddiogel â phosibl o’r coronafeirws, er mwyn darparu’r amrediad llawn o wasanaethau ledled y Gogledd. Yn anochel, bu’n rhaid cwtogi neu roi’r gorau i rai gweithgareddau er mwyn cefnogi’r nodau strategol. Rhoddwyd stop i bob pwrpas ar y gwaith recriwtio ar gyfer staff amser cyflawn, staff wrth gefn a phrentisiaid newydd. Cafodd ‘hyfforddiant parhad’ ei atal dros dro hyd nes gellid datblygu rhaglen wedi’i threfnu’n iawn i roi ystyriaeth i ofynion diogelwch mewn perthynas â’r coronafeirws. Aethpwyd ati i gynnal ymweliadau diogelwch yn y cartref dros y ffôn pan fo hynny’n bosibl, gan dargedu’r bobl oedd fwyaf mewn perygl.

GWYBODAETH

Ar adeg ysgrifennu hyn, mae’n braf cofnodi mai bach iawn o effaith uniongyrchol y mae’r coronafeirws wedi’i chael ar y gweithlu. Dim ond 5 aelod o’r staff oedd wedi cael prawf positif o’r coronafeirws erbyn diwedd mis Hydref. Yn naturiol, mae’n debygol y bydd nifer uwch o lawer wedi cael y feirws ond heb gael eu profi, a bydd rhai eraill wedi bod yn asymptomatig. Hefyd drwy gydol y cyfnod, mae aelodau o’r Gwasanaeth wedi gorfod hunanynysu neu wedi gorfod cael eu gosod dan gwarantin ond ni fu cyfnod o gwbl, hyd yn hyn, pryd bu lefel arwyddocaol o absenoldebau oherwydd effeithiau uniongyrchol y coronafeirws. Fodd bynnag, cafwyd effaith o ran y sefydliad o ganlyniad i’r rheidrwydd i aelodau o’r staff gysgodi yn ôl cyngor gan y llywodraeth. Lliniarwyd rhag effeithiau hyn, i ryw raddau, drwy drefnu i nifer o’r staff a oedd yn cysgodi i weithio o gartref, ond yn anffodus, nid oedd hyn yn bosibl ymhob achos.

Un datblygiad arwyddocaol ehangach oedd y trefniant cenedlaethol rhwng Undeb yr FBU, y Cyflogwyr Cenedlaethol a Chyngor y Prif Swyddogion Tân, o’r enw cytundeb “Teiran” (“Tripartite” agreement). Er mwyn cynorthwyo’r ymdrech genedlaethol i drechu’r feirws, fe wnaeth y cytundeb hwn hwyluso amrywiaeth o weithgareddau, a oedd hyd hynny y tu allan i swyddi diffoddwyr tân y cytunwyd arnynt yn genedlaethol. Er bod y cytundeb wedi cael ei ddefnyddio lawer yn Lloegr ac mewn rhannau eraill o Gymru, dim ond ym mis Hydref y cafodd staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu defnyddio dan delerau’r cytundeb pan ddarparwyd gyrwyr, ar gais, i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae’n bosibl y gofynnir am weithgareddau eraill, sydd o fewn y cytundeb, yn ystod yr ail don dros yr hydref/gaeaf.

Un o effeithiau nodedig y cyfnod clo cenedlaethol oedd cynnydd amlwg, ond dros dro, yn argaeledd staff y gorsafoedd tân wrth gefn, a thrwy hynny, yn argaeledd y peiriannau. Er bod y rhesymau amrywiol dros y cynnydd hwn bron yn sicr o fod yn gysylltiedig ag amgylchiadau’r cyfnod clo, mae’n debygol mai bodolaeth cynllun ffyrlo’r llywodraeth oedd y prif reswm pam roedd y cynnydd mor fawr. Nid oes tystiolaeth y bydd cynnydd yn yr argaeledd yn digwydd eto yn y cyfnod clo lleol / cyfnod atal byr.

Mae swyddogion diogelwch tân arbenigol wedi cael llawer o gysylltiad â’r trefniadau i gyflwyno ysbytai dros dro mewn tri lleoliad yng Ngogledd Cymru. Bydd ysbyty arferol yn cael ei adeiladu yn benodol ar gyfer gallu sicrhau bod cleifion sy’n methu symud yn gallu yn cael eu tynnu allan o’r adeilad mewn argyfwng, sef agwedd gymhleth a risg-gritigol sy’n gofyn am lefel uchel o sgil. Gan fod angen bod yn fodlon â’r trefniadau diogelwch tân arfaethedig, roedd rhaid i swyddogion y Gwasanaeth ddefnyddio eu harbenigedd technegol, ynghyd â’u profiad helaeth er mwyn dod i ganlyniad boddhaol.

Gan fod y cyfyngiadau cenedlaethol wedi cael eu llacio yn ystod yr haf, bu’n rhaid i’r swyddogion ystyried sut i ymateb. Y dull a fabwysiadwyd oedd parhau’n driw i’r bwriad strategol a osodwyd eisoes a pharhau i fod yn bwyllog, yn enwedig o ystyried bod y rhan fwyaf o randdeiliaid yn disgwyl “ail don” o’r coronafeirws yn yr hydref a’r gaeaf yn 2020/21. Felly, ailgyflwynwyd ‘hyfforddiant parhad’ fesul cam, a hynny yn gysylltiedig ag angen y sefydliad. Ailgyflwynwyd yr ymweliadau wyneb yn wyneb mewn cartrefi, ond dim ond mewn achosion lle roedd y risg yn uchel i’r unigolyn.

Ym mis Medi, dechreuwyd ar y gwaith o baratoi ar gyfer y tebygolrwydd y byddai cyfnodau clo lleol yn cael eu cyflwyno. Roedd y gwaith yn cynnwys diwrnod cyfan o ymarferiad llawn i ganfod pa broblemau unigryw a allai ddigwydd mewn cyfnod clo lleol, ac i gyflwyno mesurau i liniaru rhag y problemau hynny. Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae Gogledd Cymru dan gyfyngiadau pellach oherwydd y “cyfnod atal byr” a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, wrth i’r ail don a ddisgwylid effeithio ar y wlad. Mae’r trefniadau gweithredol a sefydlwyd yn gynharach yn y flwyddyn yn profi i fod yn gadarn hyd yma, ond mae’n bosibl y bydd angen eu hadolygu os bydd tarfu difrifol yn digwydd ar weithrediadau’r Gwasanaeth, er enghraifft niferoedd mawr o staff yn methu dod i’r gwaith.

Er bod egnïon wedi bod yn cael eu canolbwyntio, wrth gwrs, ar ddelio â’r pwysau uniongyrchol a dybryd a achoswyd gan y pandemig, cydnabuwyd y bydd rhaid newid ffyrdd o weithio ar ôl i’r argyfwng fynd heibio. Er mwyn gwneud hyn, sefydlwyd Cell Trawsnewid i gynorthwyo i ddatblygu siâp y trefniadau gweithio yn y dyfodol.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant - Yn ei ymateb i’r pandemig hyd yma, mae’r Gwasanaeth wedi ceisio sicrhau bod ei weithredoedd wedi bod yn gyson â’r dyhead hirdymor i leihau niwed i’r gymuned ac i’r staff.
Cyllideb - Ni chafwyd unrhyw effaith negyddol arwyddocaol ar y gyllideb hyd yma, er y bydd angen cynnal gwerthusiad llawn, maes o law, o’r materion mwy hirdymor sy’n gysylltiedig â newidiadau i arferion gweithio.
Cyfreithiol - Mae newidiadau interim i drefniadau gweithio’r Awdurdod yn cael eu caniatáu gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020.
Staffio - Fel y nodir yn yr adroddiad, ni fu unrhyw effeithiau mawr ar y lefelau staffio oherwydd y coronafeirws yn uniongyrchol, er i ni wneud newidiadau angenrheidiol i drefniadau gweithio staff a oedd yn cysgodi.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg - Dim, ar hyn o bryd.
Risgiau - Mae dyfodiad “ail don” yn golygu nifer o risgiau i’r Awdurdod o ran iechyd y staff, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae risgiau posibl i sefyllfa ariannol yr Awdurdod os bydd angen lefelau uchel o wariant yn ystod misoedd y gaeaf, ac nid oes unrhyw drefniant i adfer hynny.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen