Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Bwrdd Pensiwn Lleol Cynlluniau Pensiwn y Diffoddwyr Tân – Adroddiad Blynyddol 2019-20 a’r Cylch Gorchwyl diweddaraf

PWRPAS YR ADRODDIAD

Cyflwynir i’r Aelodau:

(i) adroddiad blynyddol y Bwrdd Pensiwn Lleol sy’n nodi gwaith y bwrdd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf; a

(ii) chylch gorchwyl diwygiedig y Bwrdd.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Cyflwyno i’r Aelodau adroddiad blynyddol y Bwrdd Pensiwn Lleol sydd yn nodi gwaith y bwrdd yn ystod 2019-20. Cyflwynir hefyd y cylch gwaith diwygiedig.

ARGYMHELLIAD

Bod yr Aelodau:

(i) yn cymeradwyo adroddiad blynyddol y bwrdd pensiwn lleol ar gyfer 2019-20 (atodiad 1), i’w gyhoeddi ar wefan yr Awdurdod; a

(ii) nodi’r cylch gorchwyl sy’n atodiad 2.

SYLWADAU’R BWRDD PENSIWN LLEOL

Ystyriwyd yr Adroddiad Blynyddol gan y Bwrdd Pensiwn Lleol ar 27 Mai 2020 ac ni nodwyd unrhyw faterion o bwys.

GWYBODAETH

Cyflwynwyd y gofynion llywodraethu ynglŷn â phensiynau o ganlyniad i Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013. Mae’r Ddeddf yn darparu trefniadau llywodraethu cliriach gyda rolau diffiniedig penodol, cyhoeddi mwy o wybodaeth yn gyson, ac ymarferion gweinyddu yn unol â’r rhai yn y sector preifat.

Daeth Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr (Diwygio) (Llywodraethu) 2015, sy’n ymwneud â a chreu a gweithredu’n barhaus pensiynau lleol, i rym ar 1 Ebrill 2015. Mae’r rheoliadau hyn yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r Awdurdod Tân ac Achub (ATAGC) gytuno i sefydlu Bwrdd Pensiwn Lleol mewn perthynas â Chynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân erbyn 1 Ebrill 2015.

Rôl a chylch gwaith y Bwrdd Pensiwn Lleol yw cynorthwyo’r Awdurdod fel Rheolwr Cynllun drwy wneud yn siŵr ei fod yn gweinyddu Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân yn effeithiol ac yn effeithlon a’i fod, wrth wneud hynny, yn cydymffurfio â’r deddfau a’r rheoliadau perthnasol. Er mwyn gwella tryloywder, gofynnir i ATAGC gyhoeddi adroddiad blynyddol ei Fwrdd Pensiwn Lleol.

Fel y nodir yng nghylch gorchwyl y Bwrdd Pensiwn Lleol, dylai’r adroddiad blynyddol gynnwys y canlynol:

  • crynodeb o waith y bwrdd pensiwn lleol a chynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn i ddod
  • manylion meysydd pryder a adroddwyd neu a godwyd gan y bwrdd a’r argymhellion a wnaed
  • manylion unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau sydd wedi codi i aelodau unigol o’r bwrdd pensiwn lleol, a sut y cafodd y rhain eu rheoli
  • unrhyw feysydd risg neu bryder y mae’r bwrdd yn dymuno’u codi gyda’r rheolwr cynllun
  • manylion yr hyfforddiant a gafwyd, ac anghenion hyfforddi a nodwyd
  • manylion unrhyw dreuliau neu gostau a ddaeth i ran y bwrdd pensiwn lleol ac unrhyw dreuliau a ragwelir ar gyfer y flwyddyn i ddod.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant - Ystyrir nad ydynt yn berthnasol

Cyllideb - Ariennir costau’r Bwrdd Pensiwn Lleol o’r gyllideb Gwasanaethau Aelodau bresennol

Cyfreithiol - Cafodd y gofynion llywodraethu newydd  ynghylch pensiynau Deddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013.

Staffio - Ystyrir nad ydynt yn berthnasol.

Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg - Ystyrir nad oes angen delio ag unrhyw faterion oherwydd mae’r argymhellion yr un mor berthnasol i bob Aelod ni waeth beth fo’r nodweddion gwarchodedig dan y Ddeddf Cydraddoldeb Sengl.

Risgiau - Rhaid i bob ATA gydymffurfio â’r cyfarwyddyd a roddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ynglŷn â’r trefniadau llywodraethu ar gyfer Byrddau Pensiwn Lleol.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen