Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2021/24 a Chyllideb ar gyfer 2021/22

PWRPAS YR ADRODDIAD

Cyflwyno Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2021/24  i’r aelodau, ynghyd â’r cyllidebau refeniw a chyfalaf drafft ar gyfer 2021/22.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Rhaid i’r Awdurdod Tân ac Achub (yr Awdurdod) osod cyllideb fantoledig ymhob blwyddyn ariannol, a chadarnhau ffigyrau amcanol ar gyfer cyfraniadau pob awdurdod cyfansoddol, a hynny erbyn diwedd mis Rhagfyr cyn dechrau’r flwyddyn ariannol.

Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r cyllidebau refeniw a chyfalaf drafft ar gyfer 2021/22, ynghyd â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2021/22 – 2023/24. Rhoddir cadarnhad hefyd o’r cyllid sydd ei angen gan bob awdurdod lleol cyfansoddol.

Mae’r gyllideb ar gyfer 2021/22, ynghyd â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, yn cynnwys nifer o ragdybiaethau allweddol, risgiau ac ansicrwydd a ganfuwyd yn y broses o gynllunio’r gyllideb.

ARGYMHELLION

Gofynnir i’r Aelodau wneud y canlynol:

(i) cymeradwyo’r cyllidebau cyfalaf a refeniw ar gyfer 2021/22, sy’n seiliedig ar £1.13m o gynnydd yn y cyfraniadau gan yr awdurdodau cyfansoddol;

(ii) nodi’r risgiau allweddol a’r ansicrwydd a ganfuwyd yn y broses o gynllunio’r gyllideb; a

(iii) cefnogi’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL

Roedd y sesiwn friffio a gynhaliwyd i’r aelodau ar 12 Hydref 2020 yn darparu golwg gyffredinol ar y gofyniad cyllidebol ar gyfer 2021/22, ynghyd â’r risgiau a’r ansicrwydd sy’n gysylltiedig â hynny. 

CEFNDIR

Mae Cynllun Gwella a Llesiant 2020/21 yn cadarnhau amcanion llesiant hirdymor yr Awdurdod, sef:

Amcan 1:  gweithio tuag at wneud gwelliannau i  iechyd, diogelwch a llesiant pobl yng Ngogledd Cymru

Amcan 2: parhau i weithio ar y cyd i helpu cymunedau i wella eu cadernid

Amcan 3:  gweithredu mor effeithiol ac effeithlon â phosibl, gan wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael

Amcan 4: parhau i ganfod cyfleoedd i annog mwy o ymgysylltu â phobl, cymunedau, staff a rhanddeiliaid

Amcan 5: cynnal gweithlu sy’n addas o amrywiol, cadarn, medrus, proffesiynol a hyblyg

Amcan 6: datblygu ffyrdd o fod yn fwy ymwybodol yn amgylcheddol er mwyn lleihau’r effaith y mae ein gweithgareddau yn ei chael ar yr amgylchedd

Amcan 7: sicrhau bod gwerth cymdeithasol a chynaliadwyedd yn cael eu hystyried, gan gynnwys yn ystod prosesau caffael.

Mae’r Awdurdod yn cael ei gefnogi gan Weithgor Cynllunio sy’n cael ei arwain gan yr aelodau. Cyfarfu’r gweithgor dair gwaith rhwng Ionawr a Mawrth 2020, i ddatblygu argymhellion ar gyfer y Cynllun Gwella a Llesiant a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Argymhellodd y Gweithgor y dylai’r Awdurdod gadw’r modelau sydd ganddo eisoes ar gyfer darparu gwasanaethau, ac y dylai ganolbwyntio ar ddatblygu a mabwysiadu Strategaeth Amgylcheddol ac unrhyw newidiadau sy’n deillio i Ymchwiliad Tŵr Grenfell.

Mae’r gwaith o ddatblygu a chymeradwyo’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r amcanion a’r blaenoriaethau, gan sicrhau bod dull strategol yn cael ei ddilyn wrth ymdrin â chynlluniau ariannol a chyllid.

Cyllideb refeniw ddrafft 2021/22

Gwnaethpwyd gwaith cynllunio manwl ar gyfer y gyllideb, a rhoddir amlinelliad yn atodiad 1 o’r rhagdybiaethau cynllunio allweddol, y risgiau a’r ansicrwydd.

Mae’r broses gynllunio wedi cadarnhau £37.07m o ofyniad gwariant net ar gyfer 2021/22, sef cynnydd o 3.16% o’r naill flwyddyn i’r llall. Yn atodiad 2, darperir crynodeb fesul pennawd yn y gyllideb.

Mae cynnig y gyllideb ar gyfer 2021/22 yn golygu £1.13m o gynnydd yn y cyfraniadau gan yr awdurdodau cyfansoddol, fel y nodir yn    atodiad 4.

Costau gweithwyr yw 72% o’r gwariant net, a £26.7m yw’r gyllideb ddrafft ar gyfer 2021/22, o radybio 2% o ddyfarniad cyflog i’r holl staff. Gan nad yw’r dyfarniadau cyflog cenedlaethol wedi’u cwblhau’n derfynol eto, mae hyn yn dal yn risg arwyddocaol wrth gynllunio. Mae’r gwaith yn parhau i sicrhau bod costau gweithwyr yn cael eu rheoli’n ofalus, gan gynnwys parhau i reoli cyflog sy’n amrywio. 

Isod, ceir dadansoddiad o’r costau gweithwyr. Mae’n cadarnhau bod mwy nag 87% o’r costau yn ymwneud â gweithwyr sy’n gweithio mewn swyddi sy’n darparu gwasanaethau.

Dadansoddiad o’r Gyllideb Staffio

2021/22
£

2022/23
£

2023/24
£

Gwasanaethau Ymateb

21,065,146

21,471,887

21,863,934

Gwasanaethau Amddiffyn ac Atal

2,599,341

2,707,100

2,766,678

Gwasanaethau Corfforaethol

3,111,124

3,198,838

3,272,392

Gofyniad Cyllideb Staffio

26,775,611

27,377,825

27,903,004

Mae cyfraniadau’r cyflogwr i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol wedi cynyddu £0.3m ar ôl derbyn y prisiad actiwaraidd teirblynyddol.

Fe wnaeth cyfraniadau pensiwn y diffoddwyr tân gynyddu yn ystod 2019/20, yn dilyn yr ailbrisiad gan Adran Actiwari’r Llywodraeth yn 2016. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi cymorth cychwynnol, ac ni chafwyd penderfyniad terfynol eto ynghylch y sefyllfa fwy hirdymor. Nid yw’r mater o ddarparu cymorth ar gyfer 2021/22 ac ymlaen wedi cael ei gwblhau’n derfynol eto, ac mae hyn yn golygu £1.1m o risg. Ar hyn o bryd, y rhagdybiaeth gyllidebol yw y bydd yr un lefel o gyllid yn dod i law.

Fel rhan o’r broses o osod y gyllideb, rhoddwyd ystyriaeth i’r risgiau penodol o fewn pob pennawd yn y gyllideb, gan arwain at £0.16m o gynnydd arfaethedig i £8.65m, a hynny ar gyfer cyflenwadau, gwasanaethau a thaliadau i drydydd partïon. Dyma 2% o gynnydd o’r naill flwyddyn i’r llall, ac mae’n adlewyrchu’r pwysau anochel o ran costau cyfleustodau, gwaith cynnal a chadw sydd wedi cronni, costau tanwydd a chostau TGCh, gan gynnwys trwyddedau meddalwedd a chontractau cynnal a chadw. Mae gwaith sylweddol wedi cael ei wneud i reoli costau nad ydynt yn gyflogau, gan gynnwys defnyddio opsiynau caffael Cymru gyfan.

Mae’r costau cyllido cyfalaf yn cynnwys costau benthyca a ffioedd refeniw am ddefnyddio asedau cyfalaf. Ni ddisgwylir cynnydd yng nghyfraddau llog Banc Lloegr yn ystod 2021/22, ac mae hyn wedi cael ei ffactorio i mewn i’r gyllideb. Mae’r gyllideb cyllido cyfalaf ar gyfer 2021/22 wedi cael ei lleihau, er mwyn adlewyrchu’r gostyngiadau yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2019/20 a 2020/21. 

Bydd gwaith yn parhau i sicrhau bod cyllideb refeniw 2021/22 yn adlewyrchu’r amgylchedd ansicr yr ydym yn gweithredu o’i fewn ar hyn o bryd oherwydd Covid-19. Gallai hyn olygu bod angen diwygio dyraniadau’r gyllideb rhwng penawdau’r gyllideb er mwyn mynd i’r afael â blaenoriaethau sy’n newid. 

CYNLLUN CYFALAF DRAFFT 2021/22

Rhoddir amlinelliad yn atodiad 3 o’r cynllun cyfalaf drafft, ac mae’n cadarnhau £3.08m o ofyniad cyfalaf ar gyfer 2021/22. Mae prif elfen y cynllun yn ymwneud â’r buddsoddiad hanfodol mewn peiriannau tân newydd. 

Mae pob cynllun a gafodd eu cynnwys yn y cynllun wedi cael eu hadolygu yng ngoleuni effeithiau Covid 19. Cafodd £0.9m o ofyniad cyfalaf ei gynnwys ar gyfer cynlluniau adeiladu, ac oherwydd y sefyllfa barhaus, a’r newidiadau a ddisgwylir i feddianaeth adeiladau, bydd y gwaith adeiladu yn mynd drwy adolygiad pellach cyn i unrhyw gyllid gael ei ryddhau.

Bydd y gwariant cyfalaf yn cael effaith ganlyniadol ar y ffioedd cyllido cyfalaf yn y blynyddoedd ariannol yn y dyfodol ac mae hyn wedi’i gynnwys yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

Strategaeth ariannol tymor canolig 2020/23

Caiff y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ei darparu yn atodiad 2, ac mae’n asesiad o’r costau sy’n gysylltiedig â chynnal y lefel gyfredol o ddarpariaeth gwasanaethau. Gwariant yn gysylltiedig â gweithwyr yw’r prif beth sy’n gyrru costau o hyd, ac mae’r strategaeth ariannol tymor canolig yn seiliedig ar ragdybiaeth gynllunio mai 2% fydd y dyraniad cyflog. 

Yn atodiad 1, ceir amlinelliad o’r risgiau allweddol a’r ansicrwydd sy’n ymwneud â’r Stategaeth Ariannol Tymor Canolig. Y rhagdybiaeth gynllunio gyfredol ar gyfer y Strategaeth yw y bydd yr arian grant ychwanegol ar gyfer prosiect Airwave yn parhau, cynllunir y dyfarniadau cyflog ar sail 2%, a bydd y costau pensiwn ychwanegol sy’n deillio o brisiad Adran Actiwari’r Llywodraeth o gynllun pensiwn y diffoddwyr tân yn 2016 yn parhau i gael eu hariannu’n ganolog. 

Goblygiadau

Amcanion Llesiant

Mae’r gyllideb yn galluogi’r Awdurdod i gyflawni ei amcanion llesiant hirdymor.

Cyllideb

£1.13m yw’r amcangyfrif presennol o’r cynnydd o’r naill flwyddyn i’r llall yng nghyfraniadau’r awdurdodau lleol ar gyfer 2021/22.

Cyfreithiol

Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar yr Awdurdod Tân ac Achub i osod cyllideb refeniw fantoledig.

Staffio

Dim

Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg

Dim

Risgiau ac Ansicrwydd

Aseswyd risgiau’r gyllideb ddrafft hon, a nodwyd y risgiau allweddol a ganlyn:

mae’r gyllideb yn seiliedig ar ragdybiaeth mai 2% fydd y dyfarniadau cyflog. Ni ddaethpwyd eto i gytundebau cenedlaethol;

y rhagdybiaeth gynllunio yw y bydd y cymorth gan Lywodraeth Cymru i’r cynnydd ym mhensiynau diffoddwyr tân yn parhau. Os na ddaw’r cymorth, mae £1.1m o risg;

y rhagdybiaeth gynllunio y bydd y £0.4m o gyllid gan Lywodaeth Cymru ar gyfer rhwydwaith cenedlaethol y gwasanaethau brys (grant Airwave) yn parhau;

mae’r Awdurdod yn bwriadu parhau i ddatblygu Strategaeth Amgylcheddol yn ystod 2021/22. Ni wnaethpwyd asesiad eto o’r costau;

yr ansicrwydd mewn perthynas â Gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac nid oes unrhyw gostau ychwanegol wedi cael eu ffactorio i mewn i gyllideb 2021/22.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen