PWRPAS YR ADRODDIAD
Cyflwyno sefyllfa ragamcanol y gwariant refeniw a chyfalaf, fel yr oedd pethau ar 30 Medi 2020.
CRYNODEB GWEITHREDOL
Yn ei gyfarfod ar 16 Rhagfyr 2019, fe wnaeth yr Awdurdod gymeradwyo cyllideb refeniw a oedd yn werth £35.9m. Y sefyllfa alldro a ragwelir o hyd yw y bydd yr Awdurdod yn adennill y costau o gymharu â’r gyllideb hon.
Ar 16 Rhagfyr 2019, fe wnaeth yr Awdurdod gymeradwyo cyllideb gyfalaf a oedd yn werth £4.1m. Oherwydd y cyfyngiadau yn sgil pandemig Covid 19, cafodd hyn ei adolygu a’i newid i £1.0m.
ARGYMHELLION
Gofynnir i’r Aelodau:
(i) nodi’r sefyllfaoedd drafft o ran alldro refeniw a chyfalaf, fel sydd yn yr adroddiad; a
(ii) cymeradwyo’r cais i ailgysoni’r gyllideb.
SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR ARCHWILIO
Nid yw’r Aelodau wedi ystyried yr adroddiad hwn o’r blaen.
CEFNDIR
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am sefyllfa alldro drafft y gwariant refeniw a chyfalaf ym mlwyddyn ariannol 2020/21.
GWYBODAETH
Y Gyllideb refeniw
Mae’r tabl isod yn nodi sefyllfa alldro’r refeniw drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21. Mae’n dangos sefyllfa lle adenillir costau o gymharu â’r gyllideb sy’n £35.942m.
Pennawd yn y gyllideb |
Cyllideb |
Amcan-estyniad |
Amrywiad |
£'000 |
£'000 |
£'000 |
|
Costau Gweithwyr |
27,182 |
26,387 |
-795 |
Safleoedd |
2,461 |
2,738 |
277 |
Cludiant |
1,009 |
1,014 |
5 |
Cyflenwadau a Gwasanaethau a Thaliadau i Drydydd Partïon |
5,025 |
5,895 |
870 |
Ariannu Cyfalaf |
2,836 |
2,653 |
-183 |
Incwm |
-2,571 |
-2,745 |
-174 |
Cyfanswm |
35,942 |
35,942 |
0 |
Costau Gweithwyr
Ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21, y gyllideb ar gyfer gwariant yn ymwneud â’r gweithwyr yw £27.18m, sef 76% o’r gwariant gros. Y rhagolwg alldro drafft yw £0.79m o danwariant. Mae hyn yn gysylltiedig â nifer sylweddol o swyddi gwag o ran prentisiaid diffoddwyr tân a phrentisiaid diogelwch tân busnesau, diffoddwyr tân wrth gefn a swyddi cefnogol eraill. Oherwydd pandemig Covid 19, ni fu modd symud ymlaen â’r gwaith recriwtio er bod y swyddi hyn yn hollbwysig er mwyn cyflawni amcanion yr Awdurdod.
Roedd y broses o osod y gyllideb yn cynnwys rhagdybiaeth mai 2% fyddai’r dyfarniadau cyflog i’r holl staff. Cafodd y dyfarniadau cyflog eu pennu’n derfynol yn ystod mis Awst a mis Medi, a’r cytundeb oedd 2.75% i staff Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (llyfr gwyrdd) a 2% i staff diffodd tân (llyfr llwyd). Ar gyfer 2020/21, bu modd talu’r costau ychwanegol drwy wneud arbedion yn ystod y flwyddyn oherwydd swyddi gwag.
Safleoedd
£2.46m yw’r gyllideb ar gyfer safleoedd, a rhagwelir £0.27m o orwariant. Mae’r prif feysydd gorwariant yn cynnwys ffi am adrethi busnes yn deillio o newid prisiad wedi’i ôl-ddyddio, a chostau yn ymwneud â gwariant ar adeiladau yn gysylltiedig â phandemig Covid 19.
Cludiant
£1.0m yw’r gwariant amcanol ar gostau’n ymwneud â chludiant, sy'n cyd-fynd yn fras â’r gyllideb. Mae’r gorwariant yn ystod y flwyddyn yn cynnwys costau ychwanegol oherwydd gofynion deddfwriaethol yn ymwneud â chael teiars newydd, ynghyd â chostau yn deillio o addasiadau angenrheidiol i sicrhau bod gwasanaeth yn parhau yn ystod pandemig Covid 19.
Cyflenwadau
£5.89m yw’r gwariant amcanol ar gyflenwadau, sef £0.87m o orwariant o gymharu â’r gyllideb. Mae hyn yn cynnwys costau uwch ar gyfer trwyddedau cyfrifiaduron, cynnal a chadw cyfrifiaduron, yn ogystal â chostau uwch ar brosiectau trawsnewid sy’n cynnwys gweitho ystwyth a lefelau uwch o gyfarpar PPE o ganlyniad i bandemig Covid 19.
Ariannu Cyfalaf
£2.84m yw’r gyllideb ar gyfer ariannu cyfalaf. Mae costau ariannu cyfalaf yn cynnwys codi ar y refeniw am ddibrisio a hefyd am gost benthyca. Rhagwelir £0.18m o danwariant, sy’n adlewyrchu’r gostyngiadau yn rhaglenni cyfalaf 2019/20 a 2020/21. Mae hyn yn rhagweld y bydd y cyfraddau llog yn aros ar y lefel bresennol.
Incwm
£2.57m yw’r gyllideb incwm, ac mae £2.21 o’r swm hwnnw yn gysylltiedig ag arian grant. £0.41 yw’r incwm a ragwelir (ac eithrio grantiau), ac mae £0.17 o hwnnw yn gysylltiedig â’r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth.
Arian Grant Refeniw
Dyma ddadansoddiad o’r arian grant ar gyfer 2020/21.
Manylion y Grant |
Dyraniad |
Lleihau Llosgi Bwriadol |
157,170 |
Archwiliadau Diogel ac Iach |
223,300 |
Y Ffenics |
147,980 |
Cydnerthedd Cenedlaethol |
154,256 |
Cyfraniadau Pensiwn y Diffoddwyr Tân |
1,110,766 |
Firelink |
415,600 |
Cyfanswm yr Arian Grant |
2,209,072 |
Y Gyllideb Refeniw Ddiwygiedig
Yn ystod y flwyddyn bu’n rhaid adolygu dyraniad y gyllideb dan y penawdau incwm a gwariant. Mae’r tabl isod yn rhoi manylion y cyllidebau gwreiddiol a diwygiedig. Rhagwelir y bydd angen newidiadau pellach yn ystod y flwyddyn ariannol i adlewyrchu’r heriau parhaus yn sgil pandemig Covid 19.
Pennawd yn y gyllideb |
Gwreiddiol £’000 |
Diwygiedig £’000 |
Addasiad £’000 |
Gweithwyr |
27,657 |
27,182 |
-475 |
Safleoedd |
2,328 |
2,461 |
133 |
Cludiant |
1,041 |
1,009 |
-32 |
Cyflenwadau a Gwasanaethau |
4,450 |
4,564 |
114 |
Taliadau Trydydd Parti |
425 |
461 |
36 |
Ariannu Cyfalaf |
2,836 |
2,836 |
0 |
Incwm |
-2,795 |
-2,571 |
224 |
Cyfanswm |
35,942 |
35,942 |
0 |
Y RHAGLEN GYFALAF
Mae’r Awdurdod wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf sy’n werth £4.09m. Oherwydd pandemig Covid 19, bu’n rhaid adolygu a diwygio’r rhaglen gyfalaf er mwyn adlewyrchu’r prosiectau y gellir eu cyflawni yn ystod y flwyddyn.
£1.0m yw’r alldro amcanol ar gyfer y rhaglen gyfalaf.
2020/21 |
2020/21 |
||
Adran |
Disgrifiad |
Dyraniad Gwreiddiol |
Dyraniad Diwygiedig |
Fflyd |
Cerbydau a chyfarpar i gymryd lle rhai eraill |
1,350 |
0 |
Gweithrediadau |
Cyfarpar PPE a chyfarpar yr ochr weithredol |
870 |
785 |
Cyfleusterau |
Uwchraddio adeiladau |
1,194 |
215 |
TGCh/Ystafell Reoli |
Uwchraddio systemau a gwaith cysylltiol |
674 |
0 |
Dyraniad Cyfalaf Diwygiedig |
4,088 |
1,000 |
Ers i’r rhaglen gael ei diwygio, mae prosiectau ar gyfer gwaith adeiladu a pheiriannau tân wedi cael eu gohirio oherwydd pandemig Covid 19.
Cafwyd oedi mewn rhai cynlluniau TGCh oherwydd bod gwaith y tîm TGCh wedi cael ei ailflaenoriaethu er mwyn rheoli’r trawsnewid i weithio o bell. Mae cynlluniau eraill wrthi’n cael eu hadolygu, ac ni ddisgwylir iddynt arwain at gostau cyfalaf yn 2020/21.
Rhagwelir y bydd y cynlluniau gohiriedig yn cael eu cwblhau yn 2021/22.
GOBLYGIADAU
Amcanion Llesiant |
Mae cysylltiad rhwng yr adroddiad hwn ag amcanion llesiant tymor hir ATAGC. Mae cyllid i’r Gwasanaeth yn fuddiol i gymunedau Gogledd Cymru, ac mae’n sicrhau bod digon o fuddsoddiad yn digwydd mewn seilwaith i alluogi’r Gwasanaeth i ddarparu ymatebion brys a gwaith ataliol ymhell i’r dyfodol. |
Cyllideb |
Mae’r gyllideb yn cael ei gosod bob blwyddyn, a hynny yn unol â’r gwasanaethau arfaethedig, sy’n cynnwys ymateb brys a gwaith ataliol. |
Cyfreithiol |
Rhaid i’r Awdurdod, dan y gyfraith, lunio’r Datganiad o Gyfrifon yn unol â’r safonau a ragnodwyd. |
Staffio |
Dim
|
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg |
Dim
|
Risgiau |
Mae incwm a gwariant yn cael eu monitro’n agos er mwyn sicrhau bod unrhyw achos o wyro o’r gyllideb a gymeradwywyd yn cael ei ganfod yn iawn ac yn cael ei adrodd i’r Aelodau. |