Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Adolygiad Archwilio Cymru o Gydnerthedd Corfforaethol

PWRPAS YR ADRODDIAD

Cyflwyno i’r Aelodau ganfyddiadau’r adolygiad gan Archwilio Cymru o wydnwch corfforaethol yr Awdurdod. Yn ystod y cyfarfod caiff yr Aelodau’n gyfle i drafod yr adroddiad adolygu gydag awduron yr adroddiad.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Yn 2020/21, fe gwblhaodd Archwilio Cymru adolygiad o wydnwch corfforaethol ym mhob un o’r tri awdurdod tân ac achub (ATAau) yng Nghymru.

O ran ATA Gogledd Cymru, casgliad yr adolygiad oedd fod yr “Awdurdod wedi dangos ei gydnerthedd byrdymor ond mae angen iddo wneud rhai penderfyniadau mawr i barhau i fod yn gydnerth yn y dyfodol”.

Mae’r adroddiad adolygu (atodiad 1) yn cyflwyno tri chynnig ar gyfer gwella mewn perthynas â threfniadau llywodraethu’r Awdurdod, cynllunio ar gyfer olyniaeth a lleoliadau gorsafoedd tân.

ARGYMHELLION

Gofynnir i’r Aelodau nodi canfyddiadau’r adroddiad.

CEFNDIR

Yn dilyn gwaith a gwblhawyd gan Archwilio Cymru rhwng 2018 a 2020 daeth yn amlwg i’r archwilwyr bod yr ATAau yng Nghymru yn wynebu heriau corfforaethol sylweddol.

Felly ar gyfer 2020/21, fe gwblhaodd Archwilio Cymru adolygiad ym mhob ATA er mwyn helpu’r Archwiliwr Cyffredinol i fynd ati i lunio’i gasgliadau mewn perthynas â’i ddyletswyddau a darparu sicrwydd ynghylch pa mor dda y mae pob ATA yn mynd i’r afael â’r heriau ariannol a’r heriau o ran capasiti sy’n wynebu cyrff cyhoeddus. Roedd yr adolygiad yn ceisio sefydlu pa un ai a ydi’r ATA yn rheoli ei adnoddau’n effeithiol i sicrhau ei gydnerthedd hirdymor.

Bwriad yr adolygiad oedd esbonio pa mor gydnerth a chynaliadwy yw pob ATA ac hefyd ystyried effaith COVID-19 a’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r cyfnod cynllunio adferiad y bydd yn rhaid i bob corff cyhoeddus ymgymryd ag o.

Mae Archwilio Cymru yn rhagweld y bydd y gwaith hwn yn rhoi sicrwydd i’r Awdurdod ynghylch y risgiau y mae’n eu hwynebu a hefyd i Lywodraeth Cymru ar yr heriau sy’n wynebu’r sector.

GWYBODAETH

Ar y cyfan, daeth Archwilio Cymru i’r casgliad bod yr Awdurdod wedi arddangos ei gydnertherdd byrdymor ond bod angen iddo wneud rhai penderfyniadau mawr i barhau i fod yn gydnerth yn y dyfodol. Yn benodol, canfu bod yr Awdurdod wedi gwneud y pethau canlynol:

• Mae’r Awdurdod wedi rheoli cyllidebau’n dda, ond mae angen mynd i’r afael â rhai risgiau allweddol i barhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol
• Mae gan yr Awdurdod fframwaith llywodraethu priodol ond mae angen i Aelodau fod â rôl fwy ganolog o ran mynd i’r afael â’r risgiau mawr sy’n wynebu’r Gwasanaeth Tân ac Achub
• Mae gan yr Awdurdod weithlu cydnerth ac mae wedi ymdrin yn dda â heriau uniongyrchol, ond mae rhai risgiau yn y tymor canolig y mae angen eu rheoli i sicrhau bod gwasanaethau’n gynaliadwy
• Mae gan yr Awdurdod enghreifftiau da o’r modd y mae’n integreiddio asedau ac yn datblygu ei ddefnydd o dechnoleg ond mae rhai heriau hirsefydlog y mae angen mynd i’r afael â hwy i helpu i gefnogi cydnerthedd yn y dyfodol
• Fe helpodd cynlluniau parhad busnes yr Awdurdod i gynnal cydnerthedd corfforaethol a gweithredol o ran ymateb i’r pandemig

Mae’r adroddiad yn nodi’r cynigion canlynol:
• Dylai’r Awdurdod adolygu effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu i ddarparu sicrwydd bod trefniadau cyfredol o gymorth gyda chraffu cadarn, yn dwyn swyddogion i gyfrif ac yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r risgiau mawr sy’n wynebu’r Gwasanaeth Tân ac Achub.
• I wella’r modd y cynllunnir ar gyfer olyniaeth dylai’r Awdurdod ailgychwyn ei raglen ymgeiswyr â photensial uchel ac adeiladu arni.
• I gefnogi cydnerthedd dylai’r Awdurdod adolygu lleoliadau gorsafoedd i adnabod cyfleoedd i optimeiddio trefniadau ymateb brys.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant Roedd yr adolygiad yn edrych ar ba un ai a ydi’r Awdurdod yn rheoli ei adnoddau i sicrhau ei gydnerthedd hirdymor. Mae hyn yn gyson ag amcanion llesiant hirdymor yr Awdurdod ac mae’n cyfrannu at sicrhau cynaliadwyedd ei wasanaethau.
Y Gyllideb Ni chanfuwyd unrhyw effaith ar gyllidebau hyd yma, ond wrth ymateb i’r cynigion yn yr adroddiad mae’n bosib y caiff cyllidebau eu heffeithio yn y dyfodol.
Cyfreithiol Nid oes unrhyw effaith uniongyrchol, ond bydd rhaid i’r Awdurdod ystyried y goblygiadau cyfreithiol os yw’n bwriadu gweithredu i gynyddu effeithlonrwydd ei drefniadau llywodraethu.
Staffio Nid oes unrhyw oblygiadau yn deillio’n uniongyrchol o’r adroddiad, ond bydd yn rhaid ystyried y goblygiadau staffio wrth ymateb i’r cynigion yn yr adroddiad.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg Nid oes unrhyw oblygiadau yn deillio’n uniongyrchol o’r adroddiad, ond bydd rhaid asesu unrhyw newidiadau a fwriedir mewn perthynas â’r agweddau hyn wrth eu datblygu.
Risgiau Mae’r adroddiad yn cyfeirio at y risgiau amrywiol a wynebir gan yr Awdurdod, ac mae’n cyflwyno cynigion a all ei helpu i wella ei broffil risg cyffredinol.

Atodiad 1

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen