Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cynlluniau Pensiwn Diffoddwyr Tân: Cylch Gorchwyl y Bwrdd Pensiwn Lleol

PWRPAS YR ADRODDIAD

1 Cyflwyno Cylch Gorchwyl y Bwrdd Pensiwn Lleol ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 i aelodau Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

CRYNODEB GWEITHREDOL

2 Mae’r Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus (2013) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod, fel Rheolwr Cynllun ar gyfer Cynlluniau Pensiwn y Diffoddwyr Tân, sefydlu Bwrdd Pensiwn Lleol (y Bwrdd). Cafodd y Bwrdd ei sefydlu yn 2015, ac mae’r Cylch Gorchwyl yn darparu’r fframwaith llywodraethu er mwyn sicrhau ei fod yn effeithiol. Mae’r Cylch Gorchwyl yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol ar ddechrau pob blwyddyn ariannol, ac mae ar gael yn Atodiad 1.

ARGYMHELLIAD

3 Bod yr Aelodau’n cymeradwyo cylch gorchwyl diwygiedig y Bwrdd Pensiwn Lleol ar gyfer 2021-22, cyn ei gyhoeddi ar wefan yr Awdurdod.

SYLWADAU’R BWRDD PENSIWN LLEOL

4 Cafodd y Cylch Gorchwyl a gynigir ei ystyried gan y Bwrdd Pensiwn Lleol (Bwrdd) yn ei gyfarfod ar 21 Ebrill 2021. Mae’r Bwrdd wedi argymell bod yr Awdurdod yn ei gymeradwyo.

CEFNDIR

5 Mae’r Bwrdd Pensiwn Lleol (y Bwrdd) wedi’i sefydlu yn unol â gofynion Adran 5 o Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013. Ystyrir mai Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (yr Awdurdod) yw’r Rheolwr Cynllun, felly mae’n gyfrifol am sefydlu’r Bwrdd a sicrhau ei fod yn gweithredu’n effeithiol.

GWYBODAETH

6 Rhaid i bob Rheolwr Cynllun bennu Cylch Gorchwyl y Bwrdd er mwyn darparu fframwaith ar gyfer ei weithrediad.

7 Bydd y Cylch Gorchwyl yn cael ei adolygu bob blwyddyn neu yn dilyn unrhyw newidiadau statudol neu reoleiddiol.


GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant Ystyrir yn amherthnasol
Cyllideb Dim goblygiadau o ran costau
Cyfreithiol Cyflwynwyd y gofynion llywodraethu newydd mewn perthynas â phensiynau o ganlyniad i Ddeddf Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus 2013.
Staffio Ystyrir yn amherthnasol
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg Ystyrir nad oes unrhyw faterion y dylid mynd i’r afael â hwy gan fod yr argymhellion yn berthnasol i bob Aelod waeth beth fo’u nodwedd warchodedig o dan y Ddeddf Cydraddoldeb Sengl.
Risgiau Rhaid i’r ATAau gydymffurfio gyda chyfarwyddyd y Rheoleiddiwr Pensiynau ynghylch y trefniadau llywodraethu ar gyfer Byrddau Pensiwn Lleol.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen