Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Bioamrywiaeth a Deddf yr Amgylchedd Cymru 2016

Pwrpas yr Adroddiad

Mae’r adroddiad hwn yn mynd i’r afael â’r modd y mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cydymffurfio ag adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am gynllunio yn y dyfodol ac am ddulliau adrodd yr Awdurdod ynglŷn â gwella bioamrywiaeth yn ei ystad.

Crynodeb Gweithredol

Rhaid i’r Awdurdod gynllunio ar gyfer, ac adrodd ynghylch, ei gamau i wella bioamrywiaeth yn ei ystad. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno Adroddiad drafft ar Fioamrywiaeth a Chadernid Ecosystemau 2019 i gael cymeradwyaeth i’w gyhoeddi ar wefan yr Awdurdod cyn diwedd mis Rhagfyr, a hynny yn unol ag adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Argymhellion

Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo cynnwys yr Adroddiad Bioamrywiaeth a Chadernid Ecosystemau 2019, sydd wedi’i atodi, er mwyn ei ymgorffori mewn cyhoeddiad â darluniau ar wefan yr Awdurdod cyn diwedd mis Rhagfyr 2019.

Sylwadau’r Panel Gweithredol/Pwyllgor Archwilio

Nid yw’r adroddiad hwn wedi cael ei ystyried o’r blaen.

Cefndir

Mae bioamrywiaeth yn ymwneud ag amrywiaeth y bywyd sydd ar y ddaear. Mae’r economi ac iechyd a llesiant pobl yn dibynnu ar ecosystemau iach a chadarn ar gyfer bwyd, dŵr ac aer glan, deunyddiau crai, ynni ac amddiffyniad rhag peryglon megis llifogydd a’r newid yn yr hinsawdd.

Roedd Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (NERC) 2006 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ystyried cadwraeth bioamrywiaeth wrth gyflawni eu swyddogaethau’n briodol.

Yn 2015, fe wnaeth Llywodraeth Cymru lansio Cynllun Adfer Natur i geisio gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth yng Nghymru. Mae’r Cynllun yn nodi sut byddai Cymru yn cyflawni ymrwymiadau Strategaeth Bioamrywiaeth yr Undeb Ewropeaidd a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Biolegol drwy gamau byrdymor hyd at 2020 ac fel ymrwymiadau hirdymor ar ôl 2020.

Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru, a rhaid i’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf weithio i’w cyflawni. Mae un o’r nodau hynny’n ymwneud â ‘Chymru gydnerth’, i wneud Cymru’n ‘genedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid’.

Yn 2016, daeth awdurdodau lleol yng Nghymru yn ddarostyngedig i Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a oedd yn cyflwyno dyletswydd yn ymwneud â bioamrywiaeth gwell a chadernid ecosystemau (‘dyletswydd adran 6’).

Mae dyletswydd adran 6 yn mynnu bod awdurdodau cyhoeddus – gan gynnwys awdurdodau tân ac achub – yn ceisio cynnal a gwella bioamrywiaeth i’r graddau y mae hynny’n gyson â chyflawni eu swyddogaethau’n briodol, a’u bod drwy wneud hynny yn hybu cadernid ecosystemau.

Dylai awdurdodau cyhoeddus wreiddio’r dasg o ystyried bioamrywiaeth ac ecosystemau yn eu holl weithgareddau, gan gynnwys cynllunio busnes, polisïau, rhaglenni a phrosiectau. Yn benodol, rhaid i bob awdurdod cyhoeddus gyhoeddi cynllun sy’n nodi sut mae’n cynnig cydymffurfio â dyletswydd adran 6, ac adroddiad yn disgrifio beth mae eisoes wedi’i wneud ar gyfer hyn. Rhaid i’r adroddiad ôl-weithredol cyntaf o’r fath gael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2019, a bob tair blynedd wedi hynny.

Gwybodaeth

 Mae’r Gwasanaeth wedi bod yn gweithio yn ôl cynllun gweithredu ar gyfer rheoli safleoedd yr Awdurdod mewn ffyrdd sy’n gwella bioamrywiaeth ei ystad drwy fynd i’r afael â’r chwe amcan sydd yng Nghynllun Adfer Natur Cymru. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr Adroddiad drafft ar Fioamrywiaeth a Chadernid Ecosystemau 2019 (gweler Atodiad 1).

Hefyd, mae amcanion drafft yr Awdurdod ar gyfer 2020/21 yn cynnwys bwriad i ddatblygu a mabwysiadu Strategaeth Amgylcheddol. Felly, bydd yn cynnwys bwriad i ddatblygu a mabwysiadu Strategaeth Amgylcheddol. Byddai gwaith cynllunio camau bioamrywiaeth ar gyfer y dyfodol yn dod o fewn cylch gorchwyl y strategaeth ehangach hon.

Mae testun drafft adroddiad bioamrywiaeth cyntaf yr Awdurdod dan adran 6 ar gael yn Atodiad 1. Gan ddibynnu ar gael cymeradwyaeth yr Awdurdod, caiff hwn ei ymgorffori mewn cyhoeddiad â darluniau i’w gyhoeddi ar wefan yr Awdurdod erbyn y dyddiad statudol, sef diwedd mis Rhagfyr 2019.

Er mai dim ond bob tair blynedd y mae’n rhaid adrodd mewn perthynas â dyletswydd adran 6 dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, gellir adrodd yn amlach yn Asesiadau Perfformiad Blynyddol yr Awdurdod.

Goblygiadau

Amcanion Llesiant

Goblygiad uniongyrchol o gytuno ar y camau tuag at gyflawni un o amcanion gwella a llesiant hirdymor yr Awdurdod.

Cyllideb

Mae perthynas glir rhwng cynlluniau’r Awdurdod ar gyfer 2020/21 a lefel yr adnoddau ariannol sydd ar gael. Rhaid i gyllideb 2020/21 gael ei chadarnhau erbyn canol Chwefror 2020.

Cyfreithiol

Mae’n rhoi cymorth i gydymffurfio â deddfwriaeth ym maes cynllunio gwelliannau, llesiant a’r amgylchedd.

Staffio

Dim effaith hysbys ar lefelau staffio.

Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg

Bydd effeithiau’r camau penodol ar yr agweddau hyn yn cael eu hasesu ar adeg briodol yn eu datblygiad.

Risgiau

Mae’n lleihau’r risgiau o beidio â chydymffurfio â’r gyfraith ac o fethu â chyllidebu a chynllunio’n briodol.

Atodiad 1

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen