Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Alldro Amcanol 2019/20

PWRPAS YR ADRODDIAD

Cyflwyno sefyllfa amcanol y gwariant refeniw a chyfalaf, fel yr oedd pethau ar 30 Tachwedd 2019.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Yn ei gyfarfod ar 17 Rhagfyr 2018, fe wnaeth yr Awdurdod gymeradwyo cyllideb refeniw yn werth £35.2m. Y sefyllfa alldro a ragwelir o hyd yw y bydd yr Awdurdod yn adennill y costau o gymharu â’r gyllideb hon. Yng nghyfarfod yr ATA ym mis Medi 2019, cymeradwywyd ailgysoni’r gyllideb.

Ar 17 Rhagfyr 2018, fe wnaeth yr Awdurdod gymeradwyo cyllideb gyfalaf yn werth £3.1m. Adolygwyd hyn, a’i newid i £2.1m.

ARGYMHELLION

Gofynnir i’r Aelodau nodi sefyllfaoedd alldro drafft y refeniw a’r cyfalaf fel sydd yn yr adroddiad.

SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR ARCHWILIO
 
Nid yw’r aelodau wedi ystyried yr adroddiad hwn o’r blaen.

CEFNDIR

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am sefyllfa alldro drafft y gwariant refeniw a chyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20.

GWYBODAETH

CYLLIDEB REFENIW

Mae’r tabl isod yn nodi sefyllfa alldro’r refeniw drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20. Mae’n dangos sefyllfa lle adenillir costau o gymharu â’r gyllideb sy’n £35.237m.

 

Cyllideb 2019/20

£

Amcan-estyniad 2019/20

£

Amrywiad 2019/20

£

Costau Gweithwyr

27,176

26,933

-243

Safleoedd

2,243

2,533

290

Cludiant

1,019

1,037

18

Cyflenwadau a Gwasanaethau

4,179

4,356

177

Taliadau i Drydydd Partïon

417

417

0

Incwm

-2,852

-2,862

-10

Ariannu Cyfalaf a Ffioedd Llog

3,055

2,823

-232

Y gofyn am gyllideb

35,237

35,237

0

Costau Gweithwyr

Ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20, y gyllideb ar gyfer y gweithwyr yw £27.271m, sef 77% o’r gwariant net. Y rhagolwg alldro drafft yw £0.243m o danwariant, ac mae hyn yn gysylltiedig ag oedi wrth recriwtio prentisiaid diffoddwyr tân. Yn ystod 2019/20, roedd rhaid rhoi’r flaenoriaeth i recriwtio diffoddwyr tân amser cyflawn er mwyn delio â phroblemau capasiti ar yr ochr weithredol. Rhoddir blaenoriaeth i benodi prentisiaid yn 2020/21.

Safleoedd

£2.243m yw’r gyllideb ar gyfer safleoedd, a rhagwelir £0.290m o orwariant. Mae’r prif feysydd gorwariant yn cynnwys costau cyfleustodau a chasglu sbwriel. Mae profion ar wifrau sefydlog yn cael eu gwneud ymhob gorsaf, ac mae hyn wedi arwain at waith cywiro er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith.
 
Cludiant
 
£1,037k yw’r gwariant amcanol ar gostau’n ymwneud â chludiant, sef gorwariant bach. Mae newid yn y gyfraith wedi arwain at yr angen i gael teiars newydd yn lle rhai sy’n fwy na 10 oed, a hynny ar bob peiriant. Rhagwelir mai £32,600 fydd y gost am wneud y gwaith hwn yn 2019/20. Bydd hyn hefyd yn rhoi pwysau ar y gyllideb yn y blynyddoedd i ddod.

Cyflenwadau
 
£4.356m yw’r gwariant amcanol ar gyflenwadau, sef £0.2m o orwariant o gymharu â’r gyllideb. Mae hyn yn cynnwys costau uwch ar gyfer trwyddedau cyfrifiaduron, cynnal a chadw cyfrifiaduron a gwariant mewn perthynas â’r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth. Mae’r gwariant uwch ar y Fforwm Lleol Cymru Gydnerth yn cael ei wrthbwyso gan incwm ychwanegol.

Ariannu Cyfalaf 
 
£3.055m yw’r gyllideb ar gyfer ariannu cyfalaf. Mae costau ariannu cyfalaf yn cynnwys codi ar y refeniw am ddibrisio a hefyd am gost benthyca. Rhagwelir £0.232m o danwariant, sy’n adlewyrchu’r gostyngiadau yn rhaglen gyfalaf 2018/19. Mae hyn yn rhagweld y bydd y cyfraddau llog yn aros ar y lefel bresennol. 
 
Incwm
 
Mae’r incwm a ragwelir yn cyd-fynd yn fras â’r gyllideb, sef £0.5m. Mae’r incwm yn cynnwys hawliad i Awdurdod Tân ac Achub Swydd Derby i dalu am gymorth a roddwyd yn ystod y llifogydd yn Whaley Bridge.
 
Arian Grant Refeniw
 
Dyma ddadansoddiad o’r arian grant yn 2019/20.

 

£

Lleihau Llosgi Bwriadol

142,529

Archwiliadau Diogel ac Iach

223,300

Y Ffenics

386,549

Cydnerthedd Cenedlaethol

141,593

Cyfraniadau Pensiwn y Diffoddwyr Tân

1,085,673

Firelink

415,600

Cyfanswm yr Arian Grant

2,395,244

Y RHAGLEN GYFALAF
 
Mae’r Awdurdod wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf sy’n werth £3.119m. Mae’r rhaglen gyfalaf wedi cael ei hadolygu a’i newid er mwyn adlewyrchu’n llwyr y prosiectau sydd wedi cael eu cynllunio i gael eu cyflawni yn ystod y flwyddyn. £2.052m yw’r rhaglen gyfalaf newydd.

£1.39m yw’r alldro amcanol ar gyfer y rhaglen gyfalaf. 

   

Cyllideb

2019/20

Alldro Amcanol

2019/20

Gofynnwyd am gael cario drosodd

2019/20

Adran

Disgrifiad

Fflyd

Cerbydau ac offer i gymryd lle rhai eraill

£180,000

£180,000

£0

Gweithred-iadau/ Fflyd

Offer

£41,000

£0

£0

Cyfleusterau

Uwchraddio adeiladau

£878,000

£603,950

£278,000

TGCh/
Canolfan Reoli

Uwchraddio systemau, a’r gwaith cysylltiedig

£953,649

£614,385

£338,130

 

Cyfanswm y Cyfalaf

£2,052,649

£1,398,335

£616,130

Ers adolygu’r rhaglen, mae prosiectau wedi llithro mewn perthynas â Chyfleusterau oherwydd bod rhaid aildendro gwaith, a hefyd mewn perthynas â TGCh/ Y Ganolfan Reoli a’r rheswm pennaf yw oedi yn y prosiect ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru i symud yr ail ganolfan reoli. Rhagwelir y bydd cyllid yn cael ei gario drosodd i 2020/21, er mwyn delio â’r llithriant hwn.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant

Mae cysylltiad rhwng yr adroddiad hwn ag amcanion llesiant tymor hir ATAGC. Mae cyllid i’r Gwasanaeth yn fuddiol i gymunedau Gogledd Cymru, ac mae’n sicrhau bod digon o fuddsoddiad yn digwydd mewn seilwaith i alluogi’r Gwasanaeth i ddarparu ymatebion brys a gwaith ataliol ymhell i’r dyfodol.

Cyllideb

Mae’r gyllideb yn cael ei gosod bob blwyddyn, a hynny’n unol â’r gwasanaethau arfaethedig, sy’n cynnwys ymateb brys a gwaith ataliol.

Cyfreithiol

Rhaid i’r Awdurdod, dan y gyfraith, lunio’r Datganiad o Gyfrifon yn unol â’r safonau a ragnodwyd.

Staffio

Dim

Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg

Dim

Risgiau

Mae incwm a gwariant yn cael eu monitro’n agos er mwyn sicrhau bod unrhyw achos o wyro o’r gyllideb a gymeradwywyd yn cael ei ganfod yn iawn ac yn cael ei adrodd i’r Aelodau.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen