Atodiad 1 – Crynodeb o’r rhagdybiaethau cynllunio a’r risgiau
Pennawd |
Y rhagdybiaethau cynllunio a ddefnyddiwyd wrth osod y gyllideb |
Risgiau |
Costau Gweithwyr |
Mae’r cyllidebau staffio wedi cael eu ffurfio ar sail modelau cyflawni cyfredol y gwasanaeth. Y rhagdybiaeth weithio bresennol yw mai 2% fydd y chwyddiant cyflogau. Ni ragwelir cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol. Bydd y £0.3m o gynnydd mewn perthynas â chyfraniadau’r cyflogwr i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cael ei reoli drwy arbedion effeithlonrwydd sy’n mynd ymlaen. Cymerir y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau’r cyflogwr i gynllun pensiwn y diffoddwyr tân yn parhau i gael ei ariannu drwy grant gan Lywodraeth Cymru.
|
Nid yw Cyd-gyngor yr NJC wedi dod i gytundeb eto am y dyfarniad cyflog i’r diffoddwyr tân ar gyfer y cyfnod 2017/18. Nid yw’r Cyd-bwyllgor Negodi ar gyfer Awdurdodau Lleol wedi cyhoeddi cynigion eto ar gyfer dyfarniad cyflog 2020/21. Mae’r gwaith o gynllunio’r gyllideb yn rhagdybio lefelau cyffredin o weithgarwch. Teimlir pwysau ar y gyllideb os bydd llif o ddigwyddiadau. Y rhagdybiaeth weithio yw defnyddio’r Gronfa Gyffredinol Wrth Gefn yn y lle cyntaf. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eto a fydd yn parhau i roi grant i gefnogi’r cynnydd yng nghyfraniadau’r cyflogwr i gynllun pensiwn y diffoddwyr tân. Amcangyfrifir mai £1.3m fydd y costau yn 2020/21. Yn Rhagfyr 2018, fe wnaeth y llywodraeth golli ei hapêl yn erbyn yr her gyfreithiol am y trefniadau pensiwn trosiannol i ddiffoddwyr tân. Bydd y mater yn mynd i Dribiwnlys Cyflogaeth i gywiro pethau. Nid yw’r canlyniad ariannol yn hysbys, ac nid oes darpariaeth wedi cael ei gwneud. Yn dilyn yr ymchwiliad cyhoeddus i drychineb Grenfell, mae’n bosibl y bydd newidiadau i reoliadau adeiladu a’r cyfrifoldebau cysylltiol. Ni wyddom eto sut gallai’r rhain effeithio ar y sector tân ac achub, ac nid oes darpariaeth wedi cael ei gwneud. |
Costau nad ydynt yn gyflogau |
Mae cyllidebau ar gyfer costau nad ydynt yn gyflogau wedi aros heb newid ers nifer o flynyddoedd, a lleddfwyd pwysau costau drwy wneud arbedion. Yr asesiad cynllunio cychwynnol ar gyfer y strategaeth hon oedd parhau, gan mwyaf, gyda chynnydd bach. Oherwydd parhad mewn pwysau costau na ellir eu hosgoi, sy’n cynnwys cynnydd mewn costau tanwydd, gwaith cynnal a chadw wedi cronni, ardrethi annomestig cenedlaethol, yswriant a chyfleustodau, cynigir 6.5% o gynnydd yn y gyllideb. Bydd pwysau costau gweddilliol yn parhau i gael eu talu drwy reoli costau ar draws y pennawd hwn. |
Er bod y Gwasanaeth yn parhau i adolygu’r costau nad ydynt yn gyflogau, a’i fod yn ymdrechu i reoli pwysau costau o fewn y gyllideb a gynlluniwyd, mae hyn yn faes risg o hyd oherwydd pwysau parhaus ym maes technoleg gwybodaeth. Yn arbennig, mae oedi wedi bod yn y gwaith cenedlaethol o gaffael Rhwydwaith ar gyfer Gwasanaethau Brys ac mae’r contract presennol wedi cael ei ymestyn. Rhagdybir y bydd y £0.4m o gymorth refeniw cyfredol gan Lywodraeth Cymru yn parhau, er na chafwyd cadarnhad o hyn eto. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dal yn faes ansicr ar draws yr economi. Nid oes darpariaeth wedi cael ei gwneud yn y gyllideb ar gyfer cynnydd mewn costau oherwydd chwyddiant neu risgiau cyfraddau cyfnewid. Yn y tymor byr, byddai’r Gronfa Gyffredinol Wrth Gefn yn cael ei defnyddio ond ni fyddai hyn yn gynaliadwy yn y tymor hir. Gallai canlyniad yr ymgynghoriad ar y gwaith o ddabtlygu Strategaeth Amgylcheddol arwain at wariant ychwanegol. Nid oes costau wedi cael eu cynnwys hyd yma yng ngyllideb sylfaenol 2020/21. |
Ariannu Cyfalaf |
Roedd yr asesiad cynllunio gwreiddiol yn cynnwys rhaglen gyfalaf gwerth £3.1m ar gyfer 2019/20. Mae’r rhaglen gyfalaf hon wedi cael ei diwygio, a’r rhagolwg cyfredol yw £2.8m o ofyniad ariannu cyfalaf, gyda’r gostyngiad yn cael ei ddefnyddio i ariannu pwysau sy’n deillio o gostau nad ydynt yn gyflogau. |
Ni wyddom beth yw’r cynnydd posibl mewn cyfraddau llog, a gallai hynny fod yn uwch na’r rhagdybiaethau cynllunio. |
Incwm |
Mae’r cyllidebau incwm wedi cael eu hadolygu, ac wedi eu gosod yn unol â’r blynyddoedd blaenorol. |
Ni chanfuwyd unrhyw risgiau penodol. |
Atodiad 2 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020/2023 - Refeniw
Cyllideb 2019/20 £ |
Amcanestyniad 2019/20 £ |
Cyllideb Ddrafft 2020/21 £ |
Rhagolwg 2021/22 £ |
Rhagolwg 2022/23 £ |
|
Prif Swyddogion |
691,854 |
676,313 |
656,127 |
669,250 |
682,635 |
Ymateb, Amddiffyn ac Atal |
22,095,245 |
21,811,786 |
22,470,804 |
22,920,220 |
23,378,624 |
Corfforaethol |
2,777,677 |
2,786,067 |
2,761,274 |
2,816,500 |
2,872,830 |
Costau eraill yn gysylltiedig â gweithwyr |
429,659 |
469,659 |
445,390 |
454,298 |
463,384 |
Costau pensiwn (ac eithrio cyfraniadau’r gweithwyr) |
1,181,700 |
1,188,600 |
1,322,500 |
1,366,710 |
1,412,164 |
Cyfanswm Costau Gweithwyr |
27,176,135 |
26,932,425 |
27,656,095 |
28,226,977 |
28,809,636 |
Safleoedd |
2,242,696 |
2,532,696 |
2,328,476 |
2,375,045 |
2,422,546 |
Cludiant |
1,019,556 |
1,037,556 |
1,040,608 |
1,092,638 |
1,147,270 |
Cyflenwadau a Gwasanaethau |
4,178,829 |
4,356,829 |
4,450,375 |
4,539,383 |
4,630,171 |
Taliadau i Drydydd Partïon |
416,740 |
416,740 |
425,095 |
433,597 |
442,268 |
Cyfanswm Gwariant sydd heb fod yn gysylltiedig â Chyflogau |
7,857,821 |
8,343,821 |
8,244,553 |
8,440,663 |
8,642,255 |
Ffioedd a Thaliadau/Incwm Amrywiol |
-456,788 |
-467,434 |
-399,570 |
-399,570 |
-399,570 |
Incwm grantiau |
-2,395,244 |
-2,395,244 |
-2,395,244 |
-2,395,244 |
-2,395,244 |
Cyfanswm yr Incwm |
-2,852,032 |
-2,862,678 |
-2,794,814 |
-2,794,814 |
-2,794,814 |
Ariannu Cyfalaf a Thaliadau Llog |
3,055,188 |
2,823,544 |
2,836,020 |
3,201,411 |
3,424,801 |
|
|
|
|
|
|
Gofyniad y gyllideb |
35,237,112 |
35,237,112 |
35,941,854 |
37,074,237 |
38,081,879 |
Cynnydd yn y gyllideb |
|
|
2% |
3% |
3% |
|
|
|
|
|
|
Atodiad 3 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020/2023 – Cyfalaf
Adran |
Disgrifiad |
Cyllideb
£ 2019/20 |
Amcan-gyfrif o’r Alldro £ 2019/20 |
Cyllideb ac arian cario drosodd arfaeth-edig £ 2020/21 |
Rhagolwg
£ 2021/22 |
Rhagolwg
£ 2022/23 |
Fflyd |
Cerbydau a pheiriannau yn lle hen rai |
191,000 |
180,000 |
1,306,000 |
1,255,000 |
1,355,000 |
Gweithred-iadau |
Cyfarpar Amddiffyn Personol a chyfarpar gweithredol |
30,000 |
0 |
944,682 |
30,000 |
30,000 |
Cyfleuster-au |
Uwchraddio adeiladau |
878,000 |
703,950 |
1,194,000 |
2,000,000 |
850,000 |
TGCh/ Ystafell Reoli |
Uwchraddio systemau a gwaith sy’n gysylltiedig â hynny |
953,649 |
614,385 |
644,130 |
400,000 |
750,000 |
Dyraniad Cyfalaf Arfaethedig |
2,052,649 |
1,498,335 |
4,088,812 |
3,685,000 |
2,985,000 |
Atodiad 4 – Cyfraniadau’r Awdurdodau Lleol Cyfansoddol 2020/21
Awdurdod |
Cyfrania 2019/2020 £ |
Poblogaeth
|
Poblogaeth % |
2020/2021 Amcanol* £ |
Cynnydd yn y cyfraniadau £ |
Cynnydd % |
|
||||||
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
5,875,914 |
117,223 |
17% |
5,988,521 |
112,607 |
1.9% |
Cyngor Sir Ynys Môn |
3,522,798 |
70,169 |
10% |
3,584,694 |
61,896 |
1.7% |
Cyngor Gwynedd |
6,226,618 |
124,426 |
18% |
6,356,498 |
129,880 |
2.0% |
Cyngor Sir Ddinbych |
4,805,681 |
95,931 |
14% |
4,900,786 |
95,105 |
1.9% |
Cyngor Sir y Fflint |
7,790,476 |
155,442 |
22% |
7,940,999 |
150,523 |
1.9% |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
7,015,625 |
140,358 |
20% |
7,170,409 |
154,784 |
2.2% |
Cyfanswm |
35,237,112 |
703,548 |
100% |
35,941,854 |
704,793 |
2% |
* Mae cyfraniadau rhagamcanol yr awdurdodau lleol 2020/2021 yn seiliedig ar gyllideb ddrafft, a rhaid eu hystyried ar y cyd â’r risg a’r ansicrwydd a amlinellir yn yr adroddiad.