Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Achub Anifeiliaid Mawr ac Achub Gyda Rhaffau

Pam mae'r newid hwn yn cael ei gyflwyno?

Nid ar chwarae bach y penderfynodd aelodau Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru i roi'r gorau i ddarparu'r gwasanaeth achub anifeiliaid mawr ac achub gyda rhaffau. Mae'r gyfraith yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni fynychu rhai mathau o ddigwyddiadau, ond nid yw'n ofynnol i ni fynychu argyfyngau o bob math.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r gwasanaeth wedi llwyddo i ddarparu gwasanaeth achub anifeiliaid mawr a gwasanaeth achub gyda rhaffau, sef dau wasanaeth sydd yn perthyn i'r categori digwyddiadau 'anstatudol', ond mae'r Awdurdod bellach wedi gorfod ailystyried hyn yn wyneb yr heriau ariannol sydd o'm blaenau.

Cafwyd dadl frwd ynglyn â'r penderfyniad i beidio â darparu gwasanaeth achub anifeiliaid mawr a gwasanaeth achub gyda rhaffau, ond roedd yr Awdurdod o'r farn, er bod hyn yn peri gofid, bod yn rhaid iddo weithredu er mwyn amddiffyn y gwasanaethau tân ac achub craidd y mae'n eu darparu.  Mae'r  hyfforddiant, yr offer a'r dasg o fynychu digwyddiadau yn ymwneud ag achub anifeiliaid mawr ac achub gyda rhaffau yn golygu costau sylweddol i'r Awdurdod o ran arian ac amser - adnoddau gwerthfawr y gallwn nawr eu defnyddio i'n helpu i gynnal ein gwasanaethau craidd.  

Ochr yn ochr â'r ystyriaethau ariannol hyn, roedd ffactorau eraill yr oedd yn rhaid i'r Awdurdod eu hystyried. Er enghraifft:

.          Argaeledd y criwiau gweithredol o ran mynychu digwyddiadau y mae'n rhaid i'r Gwasanaeth ymateb iddynt yn ôl y gyfraith;

.          Yr effaith ar brif gyflogwyr diffoddwyr tân rhan amser y Gwasanaeth sydd weithiau'n rhyddhau staff i 'fod wrth gefn' pan fydd criwiau'n cael eu hanfon  i ddigwyddiadau arbenigol yn ymwneud ag achub anifeiliaid mawr ac achub gyda rhaffau;

.          Y risg gynyddol i'r cyhoedd a chriwiau gweithredol o ganlyniad i ddarparu gwasanaeth 'golau glas' i ddigwyddiadau 'anstatudol'.

Pryd fydd y trefniadau newydd yn dod yn weithredol?

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhoi'r trefniadau newydd ar waith ar 1af Ebrill 2015.

A oes dyletswydd gyfreithiol ar y Gwasanaeth i Achub Anifeiliaid Mawr ac Achub Gyda Rhaffau?

Nid oes dyletswydd gyfreithiol ar unrhyw Wasanaeth Tân ac Achub i ymateb i alwadau yn ymwneud â darparu technegau ac offer arbenigol i achub anifeiliaid neu achub gyda rhaffau.

Pam na chafwyd ymgynghoriad ynglyn â'r newid hwn?

Yn ddiweddar fe gynhaliodd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ynglyn â darparu a chynnal a chadw gwasanaethau tân ac achub yng Ngoledd Cymru, serch hynny ni nodwyd y gwasanaethau achub anifeiliaid mawr ac achub gyda rhaffau (dau wasanaeth anstatudol) yn benodol fel rhan o'r ddogfen ymgynghori. Mae'r Awdurdod Tân ac Achub wedi ystyried yr ymateb a dderbyniodd fel rhan o'r ymgynghoriad ac roedd yn falch iawn gyda chefnogaeth y cyhoedd tuag at ei wasanaethau.  Fodd bynnag, roedd yn rhaid iddo wynebu'r gwir plaen sef yr heriau ariannol sydd gerllaw ac felly bu'n rhaid iddo graffu ar yr holl wasanaethau y mae'n eu darparu gyda'r bwriad o gyflawni arbedion a fyddai'n galluogi i'r Gwasanaeth gynnal a chadw, cyhyd ag y bo modd, ei ymateb rheng flaen i'w ddyletswyddau statudol sef diffodd tanau ac achub pobl o wrthdrawiadau traffig ar y ffordd.

Ar ôl edrych ar yr wybodaeth, bu'n rhaid i'r Awdurdod Tân ac Achub wneud penderfyniad anodd er mwyn sicrhau bod modd iddo gwrdd â'r heriau yr oedd y Gwasanaeth yn eu hwynebu o safbwynt y gyllideb.

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru felly'n hyrwyddo'r trefniadau newydd ar ei wefan a'i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, ymysg grwpiau busnes a thrwy ysgrifennu at nifer o ran ddeiliaid perthnasol.

Beth os bydd gen i anifail sydd yn sownd mewn ffoes/pwll/slyri ayb.? Ar bwy ddylwn i alw?

Ar ôl 1af Ebrill 2015 ni fydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn darparu gwasanaeth achub anifeiliaid mawr, ond mae yna asiantaethau eraill sydd yn darparu'r math yma o wasanaeth ac sydd wedi bod yn gwneud hynny ers tro.  Awgrymwn eich bod yn galw'r RSPCA neu'ch milfeddyg.

Beth os fydda i eisiau rhoi gwybod am berson sydd wedi cael ei ddal ar glogwyn/disgyn i lawr siafft cloddfa, ar bwy ddylwn i alw?

Unwaith eto, ni fydd  Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn darparu gwasanaeth achub gyda rhaffau ar ôl 31ain Mawrth 2015, ond mae asiantaethau eraill sydd ar gael i ymateb megis timau Achub Mynydd neu dîm achub oddi ar glogwyni Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi.  Awgrymwn eich bod yn galw Heddlu Gogledd Cymru a fydd yn galw ar yr  asiantaethau perthnasol.

A fydd y trefniadau newydd yn peryglu anifeiliaid mawr/anifeiliaid anwes?

Fel rheol pan mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael ei alw i achub anifeiliaid mawr, mae milfeddyg yn bresennol i ddarparu cyngor a gofalu am les yr anifail ac yn aml iawn mae'r RSPCA hefyd yn bresennol.  Er na fydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn mynychu digwyddiadau o'r fath ar ôl 31ain Mawrth 2015,fe fydd milfeddygon a'r RSPCA ar gael i leihau'r risg i'ch anifeiliaid.  

Er mwyn gwneud mwy i leihau'r risg rydym yn eich cynghori i ystyried y camau y gallwch chi eu cymryd i atal eich anifeiliaid rhag mynd i drafferthion yn y lle cyntaf, drwy, er enghraifft, sicrhau bod tir caeedig wedi ei ddiogelu a'i gynnal a'i gadw'n well ac osgoi sefyllfaoedd peryglus.

Beth os bydd angen help ar fy nghath neu fy nghi? Fyddwch chi'n ymateb?

Ers nifer o flynyddoedd bellach mae Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn cyfeirio achosion yn ymwneud ag anifeiliaid bach i'r RSPCA yn hytrach nag anfon injan dân. Rydym yn eich cynghori i gysylltu gyda'r RSPCA yn y lle cyntaf.

Beth fydd yn digwydd os bydda i'n galw 999 am gymorth?

Ar ôl 1af Ebrill 2015 ni fyddwn yn gallu ymateb i ddigwyddiadau yn ymwneud ag achub anifeiliaid mawr  ac achub gyda rhaffau gan na fydd gennym yr offer arbenigol angenrheidiol yn ein meddiant  ac  oherwydd na fyddwn bellach yn hyfforddi ein diffoddwyr tân i wneud y math yma o waith. Ar ôl y dyddiad hwn, byddwn yn cyfeirio achosion o'r fath at asiantaethau eraill.

Os ydych yn ansicr ynglyn â'r trefniadau newydd neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen