Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Yr ymgyrch Peidiwch â’n gwahodd i Ginio! yn dod i Sir Ddinbych

Postiwyd

Mae ymgyrch Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i leihau tanau yn y gegin yn dod i Sir Ddinbych yr wythnos nesaf.

 

Bydd staff allan yn hyrwyddo’r ymgyrch ‘Peidiwch â’n Gwahodd i Ginio – Meddwl yn Ddiogel, Coginio’n Ddiogel!’ yn Asda, Bae Cinmel ar ddydd Gwener 28ain Awst rhwng 10am a 3pm.

 

Mae coginio yn brif achos tanau damweiniol yn y cartref yng Ngogledd Cymru – mae’r ymgyrch hon yn pwysleisio peryglon -  nod yr ymgyrch yw amlygu peryglon gadael bwyd yn coginio ac mae'r ymgyrch yn barhad o ymgyrch lwyddiannus arall a gynhaliwyd ledled Gogledd Cymru y llynedd.

 

Anghofio diffodd y pentan, gadael bwyd yn y ficrodon yn rhy hir, gorboethi'ch sosban sglodion, llosgi tost, anghofio diffodd y popty  - gall pob un o'r rhain fod yn drychinebus yn y gegin a gallant achosi anafiadau difrifol neu, yn fwy difrifol byth, ladd rhywun.

 

Yn Sir Ddinbych, rhwng 1af Ebrill 2014 a’r 1af Ebrill 2015, roedd mwy na thraean o’r holl danau mewn aelwydydd wedi cychwyn yn y gegin.

 

Dyma pam y bydd diffoddwyr tân allan dros y ddau fis nesaf, yn siarad â siopwyr ledled Sir Ddinbych am sut i aros yn ddiogel yn y gegin, gan roddi brwsys golchi llestri am ddim i annog pobl i feddwl yn ddiogel wrth goginio a chofio sicrhau eich bod yn glanhau eich popty a’r gril yn rheolaidd. Bydd pobl yn medru profi eu gwybodaeth am ddiogelwch trwy gymryd ein cwis coginio’n ddiogel gyda chyfle i ennill gwerth £100 o dalebau archfarchnad.

 

Bydd cwis coginio arlein hefyd i helpu’r sawl na fedr fynd i’r archfarchnad i ddysgu am ddiogelwch yn y gegin a chael cyfle i ennill ein cystadleuaeth.

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud popeth a fedrwn i bwysleisio bod coginio yn achosi nifer fawr o danau mewn tai a newid ymddygiad i rwystro’r tanau rhag digwydd, ond tra medrwn ni gynghori ac addysgu, rhaid i’r unigolyn fod eisiau newid y pethau maent yn eu gwneud er mwyn gwneud eu hunain yn ddiogelach.

"Dro ar ôl tro rydym yn mynychu tanau mewn tai sydd wedi dechrau yn y gegin – mae mor hawdd anghofio am y coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, os oes rhywbeth yn mynd â’ch sylw, rydych wedi bod yn yfed neu ar feddyginiaeth, a gall y canlyniadau fod yn drychinebus. Nid ydym eisiau cael cinio gyda chi a delio â’r tân yn eich cegin!

 

"Felly, cymerwch sylw o’n hymgyrch, dewch i’n gweld mewn archfarchnad – byddwn yn rhoi brws golchi llestri i helpu cadw eich offer coginio yn lân a’r cyfle i ennill gwerth £100 mewn talebau archnfarchnad. Os na fedrwch ddod draw, cymerwch ran yn ein cystadleuaeth diogelwch tân ar ein tudalen Facebook yn www.facebook/northwalesfire.

 

"Peidiwch ag anghofio – mae larymau mwg yn achub bywydau. I gael archwiliad diogelwch cartref am ddim, ffoniwch ein linell ffôn 24 awr am ddim 0800 169 1234.

 

 

Dyma awgrymiadau Stuart er mwyn bod yn ddiogel yn y gegin:

 

  • Os ydych yn gadael yr ystafell, tynnwch y bwyd oddi ar y gwres
  • Peidiwch â defnyddio matsys matsis neu daniwr i danio cwcer nwy. Mae dyfeisiau sbarcio yn ddiogelach
  • Gwnewch yn siŵr bod unrhyw goes sosban wedi ei throi i ffwrdd o ymyl y cwcer
  • Cadwch y popty, yr hob a’r gril yn lân – os oes saim wedi hel gall fynd ar dân
  • Peidiwch â hongian unrhyw beth uwchben y cwcer
  • Cymerwch ofal os ydych yn gwisgo dillad llac gan y gall fynd ar dân
  • Pan fyddwch wedi gorffen coginio, gwnewch yn siŵr bod popeth wedi ei ddiffodd
  • Diffoddwch offer trydanol pan nad yw’n cael ei ddefnyddio
  • Peidiwch â defnyddio sosban tsips – defnyddiwch beiriant ffrïo dan reolaeth thermostat neu tsips popty
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych larymau mwg – maent yn rhad ac am ddim a gallai achub eich bywyd

 

Bydd yr ymgyrch ‘Peidiwch â’n Gwahodd i Ginio!’ yn ymddangos ledled Sir Ddinbych yn ystod Awst a Medi yn yr archfarchnadoedd canlynol:

 

  • Asda, Bae Cinmel – 28ain Awst, 10am – 3pm

  • Morrisons, Dinbych – 4ydd Medi, 10am – 3pm

  • Iceland, y Rhyl – 11eg Medi, 10 – 3pm

  • Tesco, Prestatyn – 18fed Medi, 10am – 3pm

  • Morrisons, y Rhyl – 25ain Medi, 10am – 3pm

     

     

     

    I gael gwybod mwy am yr ymgyrch, chwiliwch am #wedontwanttocomedinewithyou ar Twitter neu ewch i www.facebook/northwalesfire

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen