Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gweithio mewn partneriaeth dros y Nadolig

Postiwyd

Mae aelodau o staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn swyddfa diogelwch tân Conwy a Sir Ddinbych wedi bod yn helpu i ddanfon anrhegion Nadolig heddiw. Eleni, mae’r gwasanaeth tân ac achub yn gweithio mewn partneriaeth â ‘Home Instead Senior Care’ gan gymryd rhan yn eu menter i fod yn ‘Siôn Corn i bobl oedrannus’ yng Nghonwy a Sir Ddinbych.

 

Wrth ddanfon anrheg i rywun oedrannus ar ran ‘Home Instead Senior Care’, mae aelodau o staff y gwasanaeth tân a achub yn gallu gwirio bod cartref yr unigolyn yn ddiogel rhag tân, yn ogystal ag yn cael treulio amser gyda phobl dros gyfnod y Nadolig.

 

Yn ôl yr ystadegau, mae nifer y tanau’n cynyddu’n sylweddol yn ystod cyfnod y Nadolig, gyda bron i ddwywaith gymaint o ddigwyddiadau ym mis Rhagfyr nag mewn unrhyw fis arall o’r flwyddyn.

 

Dywedodd Stuart Millington, yr Uwch Reolwr Diogelwch Tân ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r gwasanaeth tân ac achub yn falch o gymryd rhan yn y fenter hon oherwydd rydym yn andros o ymwybodol fod mwy o beryglon dros gyfnod y Nadolig, ond rydym hefyd yn ymwybodol fod llawer o bobl ar eu pen eu hunain ac fe allent fod wedi’u hynysu’n gymdeithasol dros gyfnod y Nadolig. Mae’r fenter hon yn caniatáu inni roi mymryn o gwmni i’r bobl yma ac ar yr un pryd gallwn gynnal archwiliad diogelwch yn y cartref a darparu larymau mwg os oes angen, gan wneud pobl yn fwy diogel a chael rhannu ychydig o lawenydd y Nadolig.

 

“Byddwn hefyd yn gofyn i bawb feddwl am berthnasau a chymdogion oedrannus neu fregus yn ystod y cyfnod. Mae’r rhybudd cynnar a roddir gan larwm mwg yn gallu rhoi munudau hanfodol i’w helpu i ddianc yn ddianaf.”

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl i fod yn ddiogel ac i amddiffyn eu cartrefi rhag tân drwy ddilyn y ddeuddeg cyngor i fod yn ddiogel rhag tân dros yr ŵyl:

 

1. Gwnewch yn siŵr bod eich goleuadau Nadolig yn cydymffurfio â Safonau Prydeinig. Defnyddiwch RCD bob amser ar offer trydanol awyr agored (dyfais ddiogelwch sy’n medru achub bywydau trwy ddiffodd y pŵer ar unwaith).

2. Peidiwch byth â rhoi canhwyllau yn agos at eich coeden Nadolig neu ddodrefn. Peidiwch â’u gadael yn llosgi pan nad ydych yn yr ystafell.

3. Gwnewch yn siŵr fod eich teulu ac ymwelwyr sy’n aros dros y Nadolig yn gwybod beth i’w wneud os oes argyfwng. Lluniwch gynllun dianc a’i ymarfer.

4. Gall addurniadau losgi’n hawdd - peidiwch â’u gosod ynghlwm wrth oleuadau neu wresogyddion.

5. Diffoddwch offer trydanol pan nad yw’n cael ei ddefnyddio, os nad yw wedi ei ddylunio i gael ei adael ymlaen.

6. Cymerwch ofal arbennig gyda goleuadau Nadolig. Diffoddwch a thynnwch y plwg allan cyn ichi fynd i’r gwely. Mae Nadolig yn adeg pryd byddwn yn defnyddio mwy o eitemau trydanol – peidiwch â gorlwytho socedi a phlygiau, yn hytrach defnyddiwch geblau diogelwch gyda’r ffiwsys cywir. Edrychwch ar y gyfrifiannell ampau ar www.gwastan-gogcymru / eich cadw chi’n ddiogel / gofalu am offer trydanol, neu dilynwch y ddolen hon /looking-after-the-electrics.aspx?lang=cy

7. Mae’r rhan fwyaf o danau yn cychwyn yn y gegin – peidiwch â gadael bwyd yn coginio. Dathlwch y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn ddiogel. Mae perygl damweiniau, yn enwedig yn y gegin, yn uwch ar ôl yfed alcohol.

8. Os ydych yn bwriadu dathlu gyda thân gwyllt, storiwch nhw mewn blwch metel, darllenwch y cyfarwyddiadau, peidiwch byth â mynd yn ôl at dân gwyllt ar ôl ei danio a chadwch fwced o ddŵr gerllaw.

9. Gwnewch yn siŵr fod sigaréts wedi eu diffodd yn iawn.

10. Gwiriwch y batri yn eich larwm mwg bob wythnos a defnyddiwch y Nadolig i’ch atgoffa i’w lanhau a chael gwared ar lwch.

11. Cadwch ganhwyllau, tanwyr a matsis o gyrraedd plant.

12. Cymerwch yr amser i wneud yn siŵr fod perthnasau a chymdogion yn iawn y Nadolig hwn – gwnewch yn siŵr eu bod yn ddiogel o safbwynt tân ynghyd â’u bod yn iach.

 

Ewch i’n tudalen Facebook i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth 12 diwrnod o ddiogelwch y Nadolig i gael cyfle i ennill hamper siocledi. www.facebook.com/northwalesfire

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen