Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diogelwch Beiciau Modur

Mae BikerDown yn gwrs RHAD AC AM DDIM, sy'n cael ei addysgu dim ond gan weithwyr proffesiynol y gwasanaeth brys, gan ganolbwyntio ar leihau'r siawns y bydd beicwyr modur yn rhan o wrthdrawiad difrifol ar y ffordd. Cafodd y cwrs ei greu gan Jim Sanderson o Wasanaeth Tân ac Achub Caint, ac mae'n cael ei addysgu ledled y DU gan bersonél y gwasanaethau brys sy'n ymroddedig i achub bywydau a helpu'r cyhoedd i wybod beth i'w wneud pe baen nhw'n cyrraedd lleoliad gwrthdrawiad beic modur.

Mae'r cwrs Biker Down yn cynnwys y modiwlau a'r cynnwys canlynol:

Modiwl 1 – Rheoli lleoliad y digwyddiad

  • Sut i gadw eich hun a'r person sydd wedi'i anafu'n ddiogel
  • Diogelu’r lleoliad rhag traffig arall
  • Galw am help

Modiwl 2 – Sut i gadw rhywun yn fyw nes bydd yr ambiwlans yn cyrraedd

  • Achub ar frys (snatch rescue)
  • Rheoli Gwaedlif Difrifol
  • Cynnal y Llwybr Anadlu
  • Tynnu helmed (pryd a sut)
  • CPR

Modiwl 3 – Sut i osgoi cael eich taro oddi ar eich beic yn y dyfodol

  • Gwelededd – gwneud eich hun yn weladwy
  • Bod yn anweledig – sut i amddiffyn eich hun rhag eraill sydd ddim yn eich gweld
  • Strategaethau beicio amddiffynnol
  • Gwybodaeth am y pethau nad oeddech chi'n eu gwybod - pam mae beicwyr yn cael eu taro oddi ar eu beiciau a sut i atal hyn.

Cofrestrwch ar gyfer eich sesiwn bikerdown RHAD AC AM DDIM!

BikeSafe Gogledd Cymru

Mae gweithdai Bikesafe Gogledd Cymru yn cael cymhorthdal gan bartneriaethau Heddlu Gogledd Cymru a Diogelwch ar y Ffyrdd Gogledd Cymru. Oherwydd y cymorthdal hwn, dim ond £65 y reidiwr yw’r ffi am weithdai a gweithgareddau Bikesafe.

Mae gweithdai BikeSafe Gogledd Cymru wedi'u cynllunio er mwyn cynnig addysg sy'n gyson â phob ardal BikeSafe arall yn y DU. Y nod yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y prif ffactorau sy'n achosi damweiniau. Gyda chymorth senarios damweiniau wedi’u hanimeiddio a ddangosir ar DVD byddwch yn trafod yr atebion. Cewch fynd ar daith bleserus ar y ffordd am dros 60 milltir o amgylch ffyrdd Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri. Nid yw BikeSafe yn cyfathrebu â radio ond fe gewch sesiynau dadansoddi rheolaidd o'ch taith sy'n cynnwys sesiwn arddangos ac asesiad.

Mae’r reidiau wedi cael asesiad risg ac maen nhw’n digwydd ar gyfradd o un i dri ond llai na hyn fel arfer. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn reidio o fewn eich gallu a'ch cyflymder sydd o fewn y terfynau cyfreithiol a diogel. Mae'r profiad cyfan yn cynnig rhywbeth ar gyfer pob lefel sgiliau sydd gan rywun sydd wedi pasio eu prawf beic modur - pryd bynnag oedd hynny! Dyma eich cyfle i fanteisio ar gyfle i reidio gyda gweithwyr proffesiynol eraill o'r un anian â chi mewn amgylchedd dysgu diogel.

Cliciwch yma i gadw eich lle

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen