Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Batrïau ïon lithiwm

Batrïau ïon lithiwm

Mae gan y cartref arferol yn y DU lawer o eitemau y gellir eu hailwefru sydd â batrïau ïon lithiwm ynddynt, fel gliniaduron, ffonau symudol, sgwteri trydan, e-sigaréts, a cherbydau symudedd.

Mae gan bob un o’r eitemau hyn y potensial i achosi tân difrifol yn eich cartref. Po fwyaf yw’r batri, y mwyaf yw’r perygl - ac mae rhai o’r batrïau lithiwm mwyaf i’w canfod mewn cerbydau symudedd.

Gall y tanau hyn ddatblygu’n gyflym iawn, gan gynhyrchu llawer iawn o nwyon gwenwynig iawn, bydd y nwyon hyn yn gwneud person yn anymwybodol. Mae’r cwmwl nwy yn cael ei greu mor gyflym ac mor fawr fel y gall lenwi ystafell neu goridor cyn i’ch synhwyrydd mwg gael cyfle i ymateb.

Gall newidiadau syml lle rydych chi’n prynu, yn storio ac yn gwefru’ch dyfeisiau achub eich bywyd.

Rydyn ni’n argymell y canlynol:

  • Prynwch eich dyfeisiau a’ch batrïau newydd gan werthwr dibynadwy bob amser. Peidiwch byth â chael eich temtio i brynu batri lithiwm yn ail-law gan na fyddwch chi’n gwybod ei hanes, y difrod y gallai fod wedi’i gael na’r peryglon y gallai eu hachosi.
  • Defnyddiwch y batri a’r gwefrydd cywir ar gyfer eich dyfais bob amser a’i wefru yn ôl cyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr.
  • Gwefrwch eich eitemau’n ddigon pell o lwybrau dianc (byth mewn coridor neu ystafell sy’n darparu’r unig ffordd allan o’ch cartref) a chofiwch ddatgysylltu’r gwefrydd pan fydd wedi gorffen gwefru.
  • Peidiwch â gwefru dyfeisiau dros nos pan fydd unrhyw un yn cysgu na’u gadael yn gwefru pan fyddwch wedi gadael y cartref.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwefru eich dyfais mewn ystafell sydd â larwm mwg sy’n gweithio, sydd ddim yn peryglu eich llwybr dianc, gan gadw’r drws ar gau wrth wefru ac ymhell o unrhyw ffynhonnell wres.
  • Os yw eich dyfais neu’ch offer yn cael ei storio heb ei ddefnyddio am gyfnod o amser, dylid tynnu’r batri allan.
  • Os oes tân, peidiwch â cheisio ei daclo eich hun - dylech ei adael a ffonio 999.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen