Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Oriau a Chyflog

Mae Diffoddwyr Tân Llawn Amser fel arfer yn gweithio 42 awr yr wythnos ar gyfartaledd a chan ddibynnu ar eu rôl a'u gorsaf maent yn gweithio un o'r partymau sifft canlynol:

  • System Ddyletswydd Sifftiau  - 2 sifft dydd (9am - 6pm), 2 sifft nos  (6pm-9am) a 4 diwrnod 24 awr i ffwrdd o'r gwaith
  • System Criwio Dydd - 4 diwrnod ymlaen (12pm - 10pm ac ar alwad weddill yr amser am 4 diwrnod) ac yna 4 diwrnod i ffwrdd
  • System Ddyletswydd Gwledig - 4 diwrnod ymlaen (6am - 6pm gyda'r posibilrwydd o ddarparu gwasanaeth ar alwad weddill yr amser yn ystod y 4 diwrnod pe gofynnir a fel y bo'n addas) ac yna 4 diwrnod i ffwrdd.

Tâl

Ar hyn o bryd, y cyflog cychwynnol i ddiffoddwr tân amser cyflawn dan hyfforddiant ydy £24,191 y flwyddyn. Ar ôl cymhwyso, y cyflog i ddiffoddwr tân cymwys ar hyn o bryd ydy £32,244 y flwyddyn (mae’r cyfraddau’n gywir fel yr oedd pethau ar adeg Dyfarniad Cyflog 2020).

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen