Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddariad ar y tân mewn cartref nyrsio yn Nhrefnant

Postiwyd

 

Mae'r tân yn y cartref nyrsio yn Nhrefnant, ger Dinbych nawr dan reolaeth ac mae'r criwiau yn ceisio sicrhau na fydd y tân yn lledaenu ymhellach.

 

Fe anfonwyd chwe chriw o ddiffoddwyr tân o Lanelwy, y Rhyl, Dinbych, Abergele a Phrestatyn a'r Peiriant Cyrraedd yn Uchel a'r uned Meistroli Digwyddiadau o'r Rhyl i'r safle am 17:36 o'r gloch heddiw (Dydd Llun Rhagfyr 16) i geisio taclo'r tân gan ddefnyddio offer anadlu, pibellau dŵr a phrif bibellau.

 

Fe effeithiodd y tân yn bennaf ar y gofod rhwng y to ac y mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.

 

Roedd 31 o bobl yn byw yn y cartref a llwyddodd pawb i fynd allan o'r adeilad yn ddiogel.

 

Mae staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i geisio dod o hyd i lety dros dro i'r trigolion.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen