Wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb Cymru Gyfan
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb sy’n rhedeg o’r 10fed i’r 17eg o Hydref, 2015.
Rydym yn gwybod bod rhai pobl yng Nghymru yn fwy tebygol o gael eu bwlio neu eu cam-drin oherwydd pwy yr ydyn’ nhw; yn seiliedig ar ragfarn yn erbyn eu hunaniaeth. Mewn ymateb i hyn mae Llywodraeth Cymru wedi creu wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb Cymru Gyfan i gynyddu dealltwriaeth ac annog dioddefwyr i adrodd am unrhyw ddigwyddiadau.
Mae Cyngor Wrecsam a phartneriaid ledled Gogledd Cymru wedi dod at ei gilydd i amlygu materion trosedd casineb a hyrwyddo adrodd i’r Heddlu a Cymorth i Ddioddefwyr.
Meddai Cynghorydd Wrecsam Hugh Jones YH, Aelod Cymunedau, Partneriaethau a Chydweithredu a Chadeirydd Bwrdd Cymunedau Diogelach Gogledd Cymru: “Rydym yn gwybod bod tan-adrodd arwyddocaol o Droseddau Casineb ac rydym eisiau delio â hyn trwy gynyddu ymwybyddiaeth a rhoi sicrhad i ddioddefwyr na ddylent ddioddef yn dawel. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn parhau i godi proffil y mater pwysig hwn ac rwy’n hyderus y medrwn, trwy waith partneriaeth, wneud gwahaniaeth go iawn.”
Mae trosedd casineb yn drosedd yn erbyn unigolyn yn seiliedig ar eu hunaniaeth, neu wahaniaeth ymddangosiadol. Efallai y bydd dioddefwyr wedi eu bwlio, neu eu camdrin oherwydd pwy ‘rydynt, eu cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, ethnigrwydd neu sut mae rhywun yn dewis byw. Gall y drosedd fod yn gam-drin geiriol, graffiti anweddus, bygythiadau, difrod i eiddo, ymosodiad, seibr-fwlio, negeseuon testun, ebostiau neu alwadau ffôn treisgar.
Os ydych chi wedi cael eich bwlio, eich poenydio neu eich cam-drin oherwydd pwy rydych chi, neu’r hyn y mae rhywun yn meddwl rydych chi, yna mae’n gasineb sy’n seiliedig ar hunaniaeth.
I ddelio â throsedd casineb mewn gwirionedd, mae angen cynyddu adroddiadau. Oni fydd mwyafrif y troseddau hyn yn cael eu hadrodd ni fyddwn byth yn cael darlun gwirioneddol o’r broblem, ac ni fydd unrhyw beth yn newid. I adrodd am Drosedd Casineb:
- Ffoniwch yr Heddlu ar unwaith trwy ffonio 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol, neu 101 mewn sefyllfa nad yw’n argyfwng, neu
- Ffoniwch: 0300 30 31 982 [am ddim, 24/7] i gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr yn uniongyrchol. Caiff galwadau eu trin yn gyfrinachol a chewch aros yn ddi-enw os dymunwch hynny.
- Medrwch hefyd adrodd arlein yn www.reporthate.victimsupport.org.uk