Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gweithredu yn erbyn cwmni sgip yng ngogledd Cymru

Postiwyd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cymryd camau yn erbyn cwmni sgip yng Ngogledd Cymru oherwydd y risg o lygredd difrifol ar ei safle.

 

Mae Porthmadog Skip Hire wedi bod yn storio llawer mwy o wastraff nag sy'n ganiataol ar ei iard ac mae hyn bellach yn cael ei ystyried yn risg o lygredd sylweddol, yn arbennig os yw'n mynd ar dân.

 

Fe dderbyniodd y cwmni hysbysiad cyfreithiol i'w hatal rhag cymryd mwy o goed neu wastraff pydradwy ar ei safle yn Stad Ddiwydiannol Penamser, Porthmadog. Fodd bynnag, fe apeliodd y cwmni yn erbyn yr hysbysiad hwnnw hydref diwethaf.

 

Bellach mae'r Arolygiaeth Gynllunio wedi cadarnhau rhybudd CNC ac ni all y cwmni dderbyn fwy o bren neu wastraff pydradwy ar y safle nes iddo gydymffurfio ag amodau ei drwydded amgylcheddol.

 

Os fyddai'r deunydd yn llosgi gallai'r mwg effeithio ar bobl gerllaw, byddai'r gost o ddod a'r tân o dan reolaeth yn sylweddol a gallai'r dwr ffo lygru cyrsiau dwr lleol.

 

Yn flaenorol mae Porthmadog Skip Hire wedi methu cwrdd â gofynion rhybuddion cyfreithiol oddi wrth CNC i leihau swm o wastraff ar y safle ac wedi parhau i dderbyn gwastraff ar y safle heb leihau'r swm oedd yno'n barod.

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd wedi codi pryderon sylweddol am y safle ac wedi cyhoeddi Hysbysiad o Ddiffygion Mawr sy'n amlygu'r materion sydd angen ei datrys er mwyn lleihau'r risg o dân.

 

Dywedodd David Powell, Rheolwr Gweithrediadau  Cyfoeth Naturiol Cymru, "Mae'r penderfyniad i atal pren a gwastraff pydradwy rhag dod i'r safle yn gam terfynol, ond mae'n achosi perygl i bobl a'r amgylchedd ym Mhorthmadog.

 

"Mae gan safleoedd gwastraff drwydded yn nodi'r rheolau mae'n rhaid ei dilyn, fel nad ydynt yn peri risg i'r amgylchedd a phobl leol.

 

"Rhoesom  gyfle i'r cwmni hwn i gydymffurfio â'r amodau yn eu trwydded ond nid ydynt wedi gwneud hyn."

 

Yn ôl amodau'r drwydded amgylcheddol gall Porthmadog Skip Hire gadw 5,000 tunnell o wastraff y flwyddyn ar ei safle a'i storio mewn mannau priodol.

 

Ond mae CNC yn amcangyfrif bod yna 7,800 tunnell o wastraff ar y safle sydd ddim yn cael ei storio'n iawn ar hyn o bryd.

 

Dywedodd Geraint Hughes, Rheolwr Diogelwch y Sir, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Gall sefyllfaoedd fel hyn gyflwyno risg sylweddol helaethach o dân. Mae'n ddyletswydd arnom i ddiogelu'r cyhoedd rhag peryglon o'r fath ac i gydweithio er mwyn ceisio mynd i'r afael â hwy.

 

"Gallai tân ar y safle hwn glymu llawer o'n hadnoddau am gyfnod sylweddol o amser, rhoi bywydau ein diffoddwyr tân a'r cyhoedd mewn perygl, yn ogystal ag achosi niwed anwrthdroadwy i'r amgylchedd.


"Y pryder mwyaf i ni yn yr achos penodol hwn fyddai'r posibilrwydd o dân o'r fath yn lledaenu i eiddo cyfagos - ac mae hyn yn risg na allwn ei anwybyddu."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen