Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansiad ymgynghoriad cyhoeddus ar ddarpariaeth brys tân ac achub yng Ngogledd Cymru

Postiwyd

Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu adborth gan y rhai sy'n byw, gweithio a theithio yn y rhanbarth ynghylch darparu gwasanaethau brys yn y dyfodol yng Ngogledd Cymru.

Darpariaeth brys yw'r ffordd mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn rheoli adnoddau i gadw pobl yn ddiogel - waeth ble rydych chi'n byw neu pwy ydych chi, maen nhw'n anelu at barhau i fod yno i chi pan fyddwch chi eu hangen.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Dawn Docx: "Yn y bôn, mae darpariaeth brys yn golygu gallu darparu gwasanaeth teg ar draws ein cymunedau – sy’n amrywiol o ran lleoliad a daearyddiaeth, o ran y mathau o ddigwyddiadau rydyn ni'n ymateb iddyn nhw, a hefyd o ran y bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu, waeth pwy ydych chi.

"Ein nod yw cyflawni hyn drwy reoli ein hadnoddau, ein cyllideb a'n pobl mor effeithiol â phosibl.

"Mae cydbwyso hyn yn erbyn yr heriau presennol i ddarparu ein gwasanaethau hefyd yn allweddol - yn enwedig pan nad yw ein diffoddwyr tân rhan amser neu ar alwad ar gael fel y buont yn draddodiadol, pan fo'r risgiau sy'n wynebu ein cymunedau yn newid, er enghraifft gyda newid hinsawdd a phan fo'r heriau ariannol yn fwy nag erioed.

“Nid ymateb i ddigwyddiadau yn unig sydd angen ei hystyried – ond mae eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf yn llawer gwell i bawb sy'n cymryd rhan. Felly, mae ein gwaith atal ac amddiffyn yr un mor bwysig i'ch helpu i'ch cadw'n ddiogel."

Ategodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub: "Mae'r ymgynghoriad hwn yn bwysig i bawb yng Ngogledd Cymru ac rydych yn credu bod eich barn yn allweddol.

"Mae'n gofyn am eich barn chi ar ba risgiau sy'n eich poeni chi fwyaf? Pa benderfyniadau sy'n bwysig i chi? Sut mae'r opsiynau a gyflwynir yn diwallu anghenion ein holl gymunedau? Neu efallai bod gan gennych awgrym arall am ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaeth brys yng Ngogledd Cymru?

 

"Mae eich adborth yn bwysig – rydyn ni eisiau gwybod beth yw eich barn chi am ein dewisiadau ar gyfer y ddarpariaeth brys cyn i'r Awdurdod Tân wneud unrhyw benderfyniadau terfynol am ddarpariaeth yn y dyfodol. Felly ewch ati i lenwi'r holiadur ymgynghori.

 

"Y mwyaf o bobl sy'n cymryd rhan, gorau oll fydd ein cyfle o gyflawni'r cydbwysedd cywir o wasanaethau yn yr hyn rydym yn ei ddarparu. Hefyd, gydag amrywiaeth o safbwyntiau, gallwn fod yn hyderus y bydd y cynlluniau gweithredu manwl a ddatblygwn yn cyflawni'n union beth mae pobl Gogledd Cymru ei eisiau."

 

Mae'r ymgynghoriad yn agor ar 21 Gorffennaf 2023 ac yn cau am hanner nos ar 22 Medi 2023.

Mae copi PDF o'r ddogfen ymgynghori llawn ar gael yma.

 

I gymryd rhan, ewch yma i lenwi'r holiadur ac i gael mynediad at yr holl wybodaeth sydd ei hangen er mwyn ymateb i'r cwestiynau.

 

Gallwch ffonio neu anfon neges at Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 07787 578 386 os byddai'n well gennych gopi caled neu fformat hawdd ei ddarllen, neu e-bostiwch Adolygiaddarpariaethbrys@tangogleddcymru.llyw.cymru.

 

Gallwch hefyd fynychu un o'r digwyddiadau ymgynghori sy'n cael eu cynnal ar draws Gogledd Cymru ac ar-lein i gasglu adborth – gellir dod o hyd i fanylion yma.

 

Mae bar offer cynorthwyol ar y wefan ar gyfer darllen yn uchel, testun mwy a'r gallu i weld y wybodaeth mewn ystod eang o ieithoedd ychwanegol.

 

Dilynwch Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf:

Twitter: @NorthWalesFire

Facebook: @Northwalesfireservice

Neu chwiliwch am 'Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru' ar LinkedIn

Yr Awdurdod Tân fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol - bydd manylion y cyfarfod lle gwnaed y penderfyniad ar gael yma, ynghyd â recordiad o'r trafodion.

Ar ôl i'r penderfyniad terfynol gael ei wneud, byddai unrhyw newidiadau i ddarpariaeth brys y gwasanaeth tân ac achub yng Ngogledd Cymru yn digwydd fesul cam, fel rhan o Gynllun Rheoli Risg Cymunedol 2024/28.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen