Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaethau brys i gynnal gwasanaeth carolau Nadolig blynyddol

Postiwyd

MAE gwasanaethau brys gogledd Cymru yn paratoi i gynnal eu gwasanaeth carolau Nadolig poblogaidd.

Bydd y gwasanaeth blynyddol, sy’n cael ei gynnal ar y cyd gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru, Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan Bangor ddydd Llun 11 Rhagfyr am 7.30pm.

Bydd perfformiadau gan fand Seindorf Beaumaris, Côr Ieuenctid Môn a Rhingyll Arwyn Tudur Jones o Heddlu Gogledd Cymru.

Bydd yna hefyd gymysgedd o ddarlleniadau gan gynrychiolwyr y gwasanaethau brys, ynghyd â charolau adnabyddus i’r gynulleidfa eu canu.

Bydd yr ennillion yn mynd i Gymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru.

Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae’r digwyddiad blynyddol hwn wedi dod yn dipyn o nodwedd yng nghalendr y gwasanaethau brys ac mae’n cael ei fwynhau gan staff, gwirfoddolwyr, eu teuluoedd a’r cyhoedd.

“Mae’n gyfle nid yn unig i fynd i ysbryd Nadoligaidd, ond i ddiolch i bawb sy’n gweithio mor galed i gadw ein cymunedau’n ddiogel – nid yn unig adeg y Nadolig, ond bob dydd o’r flwyddyn.”
 
Dywedodd Cwnstabl Amanda Blakeman o Heddlu Gogledd Cymru: “Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â chydweithwyr, partneriaid a ffrindiau ar gyfer yr achlysur arbennig hwn i gychwyn dathliadau’r Nadolig.

“Caiff ei fwynhau bob blwyddyn gan lawer o staff, gwirfoddolwyr, eu teuluoedd ac aelodau o’r cyhoedd sy’n dymuno dangos eu cefnogaeth.

“Mae croeso cynnes i bawb i’r hyn rwy’n siŵr fydd yn noson wych.” 

Ychwanegodd Dawn Docx, Prif Swyddog Tân Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r gwasanaeth carolau yn un o uchafbwyntiau cyfnod y Nadolig, nid yn unig i’n staff, ond hefyd i’r gymuned sy’n dod yn llu i’n cefnogi.

“Rydym yn ddiolchgar i Gadeirlan Bangor am gynnal yr hyn sy’n argoeli bod yn ddigwyddiad gwych arall.”

Mae mynediad am ddim, a bydd lluniaeth yn cael ei weini yng nghefn y gadeirlan yn dilyn y gwasanaeth.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen