Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia 2023 – Cefnogi ein staff

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia 2023 drwy lansio adnodd newydd i sgrinio am ddyslecsia a chyfres o ddogfennau sy’n rhoi gwybodaeth i staff.

Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia yn y Deyrnas Unedig rhwng 2 ac 8 Hydref ac mae’r ymgyrch hon yn cyd-fynd â’r ffaith bod mis Hydref yn fis Ymwybyddiaeth Dyslecsia Rhyngwladol.

Mae'r adnodd sgrinio a'r dogfennau gwybodaeth a fydd yn cael eu lansio yn ddiweddarach y mis hwn yn ddatblygiad pellach ar ôl creu’r rhwydwaith staff niwroamrywiaeth a sefydlwyd yn 2022. Mae'r rhwydwaith eisoes wedi cynnal nifer o gyfarfodydd a seminarau sydd wedi codi ymwybyddiaeth ac wedi galluogi staff i rannu eu profiadau.

Meddai Benji Evans, Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gwasanaeth: "Mae ein Gwasanaeth wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o ran codi ymwybyddiaeth o ddyslecsia a chydnabod y doniau sylweddol y daw staff dyslecsig â hwy i'r gweithle.

"Byddwn yn lansio adnodd sgrinio newydd a bydd hyn yn galluogi staff i ddeall eu cryfderau a'u heriau yn well. Bydd y wybodaeth hon hefyd yn helpu ein Gwasanaeth i wneud addasiadau sy'n sicrhau bod pob gweithiwr yn gallu dysgu, symud ymlaen a chyflawni eu dyheadau o ran gyrfa.  

"Yn ogystal â'r adnodd sgrinio newydd, mae deunydd hyfforddiant newydd wedi'i ddatblygu ar gyfer staff a rheolwyr er mwyn sicrhau bod pawb yn gweithio gyda'i gilydd i greu amgylchedd cynhwysol a chefnogol er mwyn i staff dyslecsig allu ffynnu.

"Mae'r sgiliau sydd gan bobl ddyslecsig yn hynod werthfawr yn y sector tân ac achub. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld mwy o bobl yn trafod yn fwy agored ac yn datgelu eu dyslecsia.”

"Mae 'meddwl dyslecsig' wedi cael ei ychwanegu at y geiriadur yn ddiweddar, gyda'r diffiniad canlynol: 'dull o ddatrys problemau, asesu gwybodaeth, a dysgu, a ddefnyddir yn aml gan bobl â dyslecsia, sy'n cynnwys adnabod patrymau, rhesymu gofodol, meddwl ochrol, a chyfathrebu rhyngbersonol'.

"Os oes gennych ddyslecsia neu unrhyw wahaniaeth dysgu arall, mae'n ddigon posib y bydd eich sgiliau a'ch doniau yn cyd-fynd â bod yn Ddiffoddwr Tân, Dadansoddwr Data, Eiriolwr Diogelwch Tân, Peiriannydd Seilwaith TGCh neu un o'r nifer o swyddi eraill sydd ar gael yn ein Gwasanaeth."

Os hoffech ddysgu mwy am yrfaoedd yn y gwasanaeth tân ac achub, ewch i'n tudalen gyrfaoedd ar ein gwefan - https://www.northwalesfire.gov.wales/about-us/recruitment-and-vacancies/?lang=cy-gb

 

 

Mae mwy o wybodaeth am ddyslecsia ar gael ar wefan Cymdeithas Dyslecsia Prydain (BDA).

Mae'r BDA yn hyrwyddo cymdeithas sy'n ystyriol o ddyslecsia ac sy'n galluogi pobl ddyslecsig o bob oed i gyrraedd eu llawn botensial.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen