Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog busnesau i wneud diogelwch tân yn flaenoriaeth

Postiwyd

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig ystod o gyngor i fusnesau bach a chanolig yn ystod Wythnos Diogelwch Busnes Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC), a gynhelir rhwng 11 a 17 Medi.

Nod yr wythnos yw helpu busnesau i ddeall eu cyfrifoldebau diogelwch tân fel eu bod yn parhau i fod yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn cydymffurfio. Mae modd atal llawer o danau yn y gweithle ac nid yw rhai busnesau byth yn adfer ar ôl tân. Mae helpu busnesau i reoli eu risgiau a’u peryglon tân, ac o bosibl i achub bywydau a diogelu eu busnesau rhag colled ariannol a masnachol yn hollbwysig.

Gall mesurau syml i leihau'r risg o dân yn dechrau a sicrhau bod staff yn gwybod sut i ymateb yn y ffordd iawn helpu i gadw pobl yn ddiogel ac mae hyn yn gwneud synnwyr busnes.

Ar yr adeg hon o'r flwyddyn bydd llawer o fusnesau'n paratoi ar gyfer cyfnod y Nadolig a gall yr argyfwng costau byw effeithio arnynt hefyd. Mae’n bwysig bod busnesau’n ystyried y risg o dân mewn unrhyw newidiadau a wnânt a sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o ddiogelwch tân yn y gweithle.

Ar gyfer Cymru a Lloegr yn Unig

O 1 Hydref bydd deddfwriaeth diogelwch tân newydd yn dod i rym. Bydd hyn yn golygu bod angen i lawer o fusnesau a pherchnogion adeiladau wirio a yw hyn yn effeithio arnynt a sut i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau.

Y prif newidiadau yw:

  • Bydd angen i bob busnes gofnodi asesiad risg tân a threfniadau diogelwch tân yn llawn – waeth beth fo nifer y gweithwyr, maint y busnes neu ba fath o fusnes ydyw.
  • Mae mwy a mwy o ofynion ar fusnesau i sicrhau cydweithredu a chydgysylltu rhwng Personau Cyfrifol mewn adeiladau amlfeddiannaeth neu'r rhai lle nad yw'r deiliad a'r perchennog yr un person.
  • Mewn adeiladau preswyl sydd â dau eiddo domestig neu fwy, rhaid rhoi gwybodaeth i’r preswylwyr am y risgiau tân a'r mesurau diogelwch tân sydd ar waith i'w cadw'n ddiogel.

 

Mae digon o gyngor a chefnogaeth ar gael i fusnesau gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru – rydym yn annog unrhyw un sydd â chwestiynau neu sydd ddim yn siŵr efallai am ddiogelwch tân i gysylltu â ni fel y gallwn ni helpu. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.northwalesfire.llyw.cymru

 

Meddai Gavin Tomlinson, Cadeirydd Pwyllgor Amddiffyn a Diogelwch Busnes Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân: “Mae gwasanaethau tân ac achub yn ymrwymedig i helpu pob math o fusnesau i leihau’r risg o dân yn y gweithle a chydymffurfio â chyfraith diogelwch tân. Dydyn ni ddim yn disgwyl i fusnesau fod yn arbenigwyr a dyna pam rydyn ni yma i ddarparu cymorth a chyngor.

“Rydym yn annog unrhyw fusnes i weithio gyda’u gwasanaeth tân i helpu i atal tanau a’u helpu i aros yn gynhyrchiol, yn ddiogel ac yn gyfreithlon.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen