Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Deall peryglon dŵr i leihau boddi damweiniol

Postiwyd

Yn 2022, cafodd 266 o fywydau eu colli o ganlyniad i foddi damweiniol yn y DU. Mae'r marwolaethau hyn yn drasiedïau y gellir eu hatal, ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymuno â'r alwad i bobl gadw'n ddiogel mewn dŵr ac o’i gwmpas.

Mae ymgyrch Deall Peryglon Dŵr Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân yn rhedeg o 22-28 Ebrill. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth am y risg o foddi damweiniol a darparu cyngor diogelwch cyn y misoedd cynhesach.

Mae ystadegau'n dangos nad oedd gan 40% o'r bobl a foddodd yn ddamweiniol unrhyw fwriad i fynd i mewn i'r dŵr. Yn aml, llithro, baglu a syrthio oedd achos y damweiniau hyn.

Mae llawer o bobl hefyd yn tanamcangyfrif y peryglon o neidio i mewn i ddŵr neu drochi er mwyn oeri, yn enwedig y rhai nad oes ganddyn nhw lawer o brofiad o nofio yn yr awyr agored. Gall peryglon annisgwyl a sioc dŵr oer olygu bod hyd yn oed nofwyr cryf yn mynd i drafferthion.

Gwrywod yw 87% o'r marwolaethau damweiniol hyn, gyda 60% ohonynt mewn dyfroedd mewndirol fel afonydd, cronfeydd dŵr a llynnoedd.

Dyma rai awgrymiadau syml i helpu i gadw'n ddiogel:

  • Cadwch at y llwybrau cywir a chadwch yn glir o ymyl y dŵr
  • Peidiwch â mynd i mewn i'r dŵr ar ôl yfed alcohol
  • Dilynwch lwybr diogel adref ar ôl yfed, gyda ffrindiau ac i ffwrdd oddi wrth ddŵr
  • Gall sioc dŵr oer ladd, gall cerdded i mewn i'r dŵr yn hytrach na neidio i mewn helpu i leihau'r risg.

Fel mae'r ystadegau'n dangos, dyw llawer o bobl ddim yn disgwyl i'w profiad ger dŵr droi'n argyfwng, felly mae gwybod beth i'w wneud os ydych chi neu rywun arall mewn trafferth yn y dŵr yn wybodaeth all achub bywydau.

Os oes rhywun mewn trafferth yn y dŵr, y ffordd orau i helpu yw drwy beidio â mynd i banig, aros ar y tir, a chofio Ffonio, Dweud, Taflu:

  • Ffoniwch 999 ar gyfer y gwasanaethau brys
  • Dywedwch wrth y person sydd mewn trafferth i arnofio ar ei gefn.
  • Taflwch rywbeth sy'n arnofio atynt.

Os cewch chi eich hun mewn trafferth yn y dŵr, cofiwch 'Arnofio i Fyw’. Pwyswch eich pen yn ôl gyda'ch clustiau o dan y dŵr. Ymlaciwch ac anadlu'n normal. Symudwch eich dwylo i’ch helpu i aros ar wyneb y dŵr. Lledaenwch eich breichiau a'ch coesau. Unwaith y bydd eich anadlu o dan reolaeth, galwch am help neu nofiwch i ddiogelwch.

Dywedodd Dawn Whittaker, Arweinydd Atal Boddi ar gyfer Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân: "Diben Deall Peryglon Dŵr yw helpu pobl i dreulio amser mewn dŵr ac o’i gwmpas yn ddiogel. Rydym yn annog pobl i leihau eu risg o foddi drwy wneud dewisiadau diogel o amgylch dŵr a gwybod beth i'w wneud os bydd argyfwng.

"Mae’r cyngor syml i 'Ffonio, dweud, taflu' ac 'Arnofio i Fyw' yn negeseuon sy’n achub bywydau y mae'r gwasanaethau tân yn eu rhannu i helpu i leihau'r marwolaethau hyn y gellir eu hatal a'r effaith drychinebus y maent yn ei chael ar deuluoedd a chymunedau."

Meddai Kevin Jones, Pennaeth Diogelwch Tân: "Bydd ein criwiau yn Llyn Tegid, Bala ddydd Sadwrn, 27 Ebrill rhwng 11am a 2pm yn helpu pobl i ddysgu mwy am sut i ddeall peryglon dŵr. Mi fyddwn ni'n cynnal gweithgareddau ac arddangosiadau - dewch draw i'n gweld ni yno!"

Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch 'Deall Peryglon Dŵr' ewch i: www.nfcc.org.uk/bewateraware a chadwch lygad am #DeallPeryglonDŵr #BeWaterAware ar y cyfryngau cymdeithasol

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen